Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni (Minnimum Energy Efficiency Standards) i Landlordiaid
Neges i atgoffa Landlordiaid adeiladau rent domestig preifat yng Nghymru a Lloegr bod rhaid cydlynu gyda’r goblygiadau newydd ynglŷn â rheoliadau Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni (Minimum Energy Efficiency Standards) neu’r MEES cyn 1af o Ebrill 2020. Nodir bydd y rheoliadau hyn yn effeithio ar adeiladau masnachol o’r 1af Ebrill 2023.
Fel y gwyddoch, mae’n orfodol ar bob adeilad ddal Tystysgrif Perfformiad Ynni (Energy Performance Certificate, neu EPC) dilys, sy’n dangos effeithiolrwydd ynni’r adeilad yn ogystal ag awgrymu dulliau gwella er mwyn arbed costau yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, gellir ond gwneud gosodiadau newydd os oes gan yr adeilad sgôr effeithiolrwydd ynni o ‘E’ neu uwch. Fodd bynnag, o’r 1af Ebrill 2020, mi fydd hi’n anghyfreithlon i Landlordiaid barhau i osod unrhyw adeilad domestig gyda sgôr effeithiolrwydd ynni sy’n llai na ‘E’. Golyga hyn y bydd hi’n angenrheidiol i Landlordiaid gael Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer adeiladau sydd wedi’u gosod am dymor hir, yn ogystal ag adeiladau sydd heb Dystysgrif Perfformiad Ynni ar hyn o bryd. Os yw sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni newydd neu bresennol yr adeilad o dan ‘E’, bydd hi’n orfodol ar y Landlord i gymryd camau pellach er mwyn parhau i osod yr adeilad yn gyfreithlon. Os yw sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni eich adeilad yn îs na ‘E’, bydd rhaid i chi naill ai gofrestru rhyddhad o ran pam na ellir gwella’r sgôr (ceir manylion pellach isod), neu gweithredu ar unwaith i wella effeithiolrwydd ynni eich adeilad cyn 1af Ebrill 2020 er mwyn osgoi cosbau am dorri’r rheoliadau.
Noder os yw eich adeilad domestig yn wag ar hyn o bryd, a does gennych ddim bwriad gosod yr adeilad yn y dyfodol agos, does dim gofyniad cyfreithiol arnoch i wneud unrhyw welliannau eto, tan i chi benderfynu gosod eich adeilad eto, ond mi fyddai’n syniad da ymchwilio i beth gall eich goblygiadau fod.
Pa ryddhadau sydd ar gael?
Os yw hi’n amhosib gwella effeithiolrwydd ynni eich adeilad erbyn 1af Ebrill 2020 i sgôr o ‘E’ o leiaf heb wario mwy na £3,500 yn cynnwys TAW, yna dylech wneud pob gwelliant posib i’r adeilad, ac yna gwneud cais i gofrestru eithriad bod ‘pob gwelliant wedi’i wneud’ ar-lein ar y Gofrestr Rhyddhad PRS, neu’r ‘PRS Exemption Register’.
Rhai rhyddhadau arall sydd ar gael yw:
- Y rhyddhad cost uchel, lle gallwch brofi eich bod wedi gwario hyd at yr uchafswm o £3,500 yn cynnwys TAW wrth wneud gwelliannau i’ch adeilad;
- Y rhyddhad insiwleiddia wal, lle gall gwneud gwelliannau wrth inswleiddio wal eich adeilad, yn ôl barn arbenigwr, gael effaith negyddol ar yr adeilad; a’r
- Rhyddhad cydsyniad, lle mae’n ofynnol i chi gael cydsyniad, er enghraifft, tenant cyn cael mynediad i’r adeilad i wneud gwelliannau, ac er gwaethaf eich ymdrechion gorau, ni ellir caffael cydsyniad.
Os nad yw’n bosib i chi gaffael rhyddhad, bydd rhaid i chi wneud gwelliannau i’ch adeilad er mwyn gwella’r effeithiolrwydd ynni. Mi allai fod yn bosib caffael cyllid oddi wrth eich awdurdod lleol, ond mae hyn yn amrywio o awdurdod i awdurdod.
Yn gyffredinol, os oes gennych adeilad domestig heb Dystysgrif Perfformiad Ynni, neu denantiaid tymor hir, dylech wirio eich sefyllfa. Mae yna nifer o ryddhadau posib i’w hawlio, ac eithriadau a ellir fod yn berthnasol mewn rhai achosion. Ni allwn restru pob un fan hyn, ond cysylltwch ag aelod o’n tîm os oes gennych unrhyw ymholiad, neu os hoffech drafod adeilad penodol mewn mwy o fanylder.
Noder nad yw’r uchod yn gyngor cyfreithiol. Bwriad yr erthygl hon yw darparu gwybodaeth g yffredinol ynglŷn â materion cyfoes cyfreithiol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu os oes angen cyngor cyfreithiol penodol arnoch am unrhyw fater perthnasol.