Ewyllysiau & Covid-19
Rwyf wedi derbyn nifer o ymholiadau ynghylch p’un ai gellid creu Ewyllys o dan gwmwl Covid-19, ac os oes modd gwneud hyn, sut gellid ei dystio. O ganlyniad i hyn, rwyf wedi creu canllaw ar beth yw’r safle cyfreithiol a beth yw’r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Er mwyn cael Ewyllys dilys, rhaid iddo fodloni Adran 9 o Ddeddf Ewyllysiau 1837. Os nad yw Ewyllys yn bodloni pob un o’r amodau hyn, bydd yn annilys ac ni fydd modd ei anfon at brofiant. O dan Adran 9:
- rhaid i’r Ewyllys gael ei arwyddo gan yr ewyllysiwr (y person sy’n creu’r Ewyllys); a
- rhaid i’r ewyllysiwr fwriadu creu Ewyllys wrth ei arwyddo; a
- rhaid i’r ewyllysiwr arwyddo’r Ewyllys ym mhresenoldeb dau neu fwy o dystion sy’n bresennol ar yr un pryd;
- rhaid i bob tyst ardystio ac arwyddo’r Ewyllys ym mhresenoldeb yr ewyllysiwr.
Yn ogystal â’r ffurfioldebau uchod, rhaid i’r ewyllysiwr hefyd gael y gallu testamentaidd, ni ellid arwyddo Ewyllys o dan bwysau neu ddylanwad gormodol gan drydydd parti, a rhaid i’r ewyllysiwr fod yn ymwybodol o a chadarnhau cynnwys yr Ewyllys.
Unwaith mae’r Ewyllys wedi’i ysgrifennu/baratoi ar gyfer yr ewyllysiwr, mae’r her o ran ei arwyddo’n codi. Fel arfer, byddaf yn mynychu’r arwyddo ym mhresenoldeb yr ewyllysiwr a thrydydd parti. Fodd bynnag, mae’r mesurau ymbellhau cymdeithasol a’r angen i warchod unigolion bregus rhag haint yn cynnig heriau. Er bod y ffurfioldebau’n ymddangos yn syml, gall llawer fynd o’i le.
Rhaid i’r ewyllysiwr arwyddo’r Ewyllys ym mhresenoldeb ffisegol dau dyst. Rhaid i’r ddau dyst weld yr ewyllysiwr yn arwyddo ei (H)Ewyllys ac yna rhaid i’r tystion arwyddo’r Ewyllys ym mhresenoldeb yr ewyllysiwr. Rhaid i’r tyst fod yn 18 oed neu throsodd, ni ddylai berthyn yn uniongyrchol i’r ewyllysiwr a ni ddylai fod naill ai’n fuddiolwr o dan yr Ewyllys, neu’n briod â buddiolwr. Os yw’r sefyllfa hyn yn codi, bydd y buddiolwr yn colli ei hawl yn yr Ewyllys (ond bydd gweddill yr Ewyllys yn parhau’n ddilys).
Er mwyn sicrhau eich bod yn cydlynu ag ymbellhau cymdeithasol, awgrymir bod yr Ewyllys yn cael ei arwyddo o dan yr amgylchiadau canlynol:
- arwyddo ‘bwrdd’: sef bod bwrdd yn cael ei osod y tu allan i gartref yr ewyllysiwr a’r Ewyllys yn cael ei osod ar y bwrdd. Dim ond yr ewyllysiwr a’r ddau dyst fydd yn bresennol. Mae’r ewyllysiwr yn camu at y bwrdd (gyda’r tystion yn sefyll nôl ond yn ddigon agos i fedru tystio’r arwyddo) ac yn arwyddo’r Ewyllys. Yna mae’r ewyllysiwr yn camu nôl, ond yn parhau yn agos er mwyn tystio’r tystion yn arwyddo, yna bydd y tystion yn arwyddo’r Ewyllys, un ar y tro. Bydd dyddiad yr arwyddo yna’n cael ei roi ar yr Ewyllys. Awgyrmir defnyddio beiro gwahanol er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r firws.
- Arwyddo trwy’r ‘ffenestr’: datganodd yr achos Casson v Dade (1781), sydd nawr yn 240 oed, y gall Ewyllys gael ei arwyddo’n ddilys pan fo’r ewyllysiwr a’r tystion bob ochr i ffenestr (mewn swyddfa). O achos bod yr ewyllysiwr yn gallu tystio’r tystion yn arwyddo o ochr arall y ffenestr, datgelwyd bod hyn yn ddigonol. Defnyddiwyd y penderfyniad hwn mew nachos mwy diweddar, sef Re. Clarke (2011) a oedd yn ymwneud ag arwyddo Pŵer Atwrnai.
Os dilynir y broses hon, yna rhaid dilyn yr un broses gyda’r opsiwn ‘bwrdd’ uchod, ond yn lle pasio’r Ewyllys dros y bwrdd, bydd yr Ewyllys yn cael ei basio rhwng y tri parti drwy’r ffenestr. Mae’n hanfodol bod gan bawb bresenoldeb gweledol o’i gilydd a bod pawb yn gallu gweld ei gilydd yn glir drwy’r ffenestr.
Er gwaethaf y dyfarniadau Llys uchod, ceir risg gyda’r ddull hyn y gall yr Ewyllys gael ei herio am fethu â chydlynnu â gofynion Adran 9 o’r Ddeddf Ewyllysau. Os defyddir y dull hwn, awgrymir recordio’r arwyddo, a chreu nodyn presenoldeb manwl o safbwynt y tri parti yn cadarnhau sut cafodd yr Ewyllys ei arwyddo.
Mae yna ddulliau arall o ysgrifennu ac arwyddo Ewyllys ond ceir risg uchel gyda’r rhai hynny nad yw dymuniadau’r ewyllysiwr yn cael eu dilyn, felly nid ydym yn eu hargymell.
Noder hefyd nad oes unrhyw awdurdod cyfreithiol ar hyn o bryd i gwestiynnu p’un ai gall dogfen gael ei dystio o bell dros dechnoleg fideo. Tan fod y ddeddfwriaeth yn cael ei addasu a’i ddiweddaru i gynnwys hyn, fy nghyngor i yw parhau ar y sail bod angen presenoldeb ffisegol yr ewyllysiwr a’r tystion.
Rydym ni yn Agri Advisor yn hapus i helpu gyda’ch Ewyllys a dod o hyd i ffordd sy’n galluogi eich Ewyllys i gael ei baratoi a’i arwyddo mewn modd dilys. Cysylltwch gyda fi, neu aelod o’r tîm ar y rhif isod i drafod ymhellach.