Marchnadoedd Da Byw – Ble mae ffermwyr yn sefyll (yn llythrennol)…
Ers i’r rheoliadau ddod i rym i geisio rheoli’r Coronafirws, mae effeithiau enfawr wedi bod ar ffermwyr da byw a gwerthiant eu stoc trwy farchnadoedd da byw. Mae’r erthygl hon yn ceisio egluro’r sefyllfa a chadarnhau’r newidiadau diweddar sydd wedi galluogi rhai gwerthiannau stoc bridio i gychwyn.
Yn gyntaf oll, mae gwerthiant anifeiliaid wedi’u pesgi, anifeiliaid stôr ac anifeiliaid i’w difa wedi’i ganiatáu o hyd. Dylai pob marchnad da byw yn y wlad gynnal polisi ‘gollwng a mynd’, ni ddylai gwerthwyr fynd i mewn i’r farchnad ar droed. Wrth ollwng da byw yno, rhaid i ffermwyr aros yn eu cerbydau, dylai staff y farchnad ddadlwytho’r trelars ar eu rhan, a dylai’r arwerthwyr/staff gasglu dogfennau’r gwerthiant wrth y gwerthwyr o’u cerbydau.
Y nod yw lleihau presenoldeb mewn marchnadoedd i’r lleiafswm posib, yn y marchnadoedd rhaid i brynwyr aros 2m oddi wrth ei gilydd, gan gynnwys o amgylch y cylch gwerthu ac mewn llinellau talu. Mewn rhai amgylchiadau, bydd rhaid i brynwyr brynu ar ran cyfrifon eraill, er mwyn cyfyngu’r nifer o bobl yn y farchnad ymhellach ac i helpu’r rhai hynny sy’n cael eu cydnabod yn fregus. Bydd disgwyl i brynwyr gofrestru wrth fynychu’r farchnad a dylid saniteiddio wrth fynd i mewn ac allan o’r adeilad.
Yn dilyn llwyddiant gweithredu’r polisi ‘gollwng a mynd’ yn ogystal â cynnal ymbellhau cymdeithasol yn y marchnadoedd, mae DEFRA a Llywodraeth Cymru nawr wedi caniatáu gwerthu rhai stoc bridio. Mae gwerthiannau stoc bridio wedi’i ganiatáu ers 27ain o Ebrill. Mae’r un mesurau ar gyfer prynwyr a gwerthwyr yn parhau mewn lle, ac rhaid i werthwyr ‘ollwng a mynd’ o hyd, a rhaid i brynwyr aros 2m oddi wrth ei gilydd a chofrestru wrth gyrraedd. Mae wedi’i gynghori mai dim ond ‘prynwyr hysbys’ bydd yn cael mynychu’r farchnad.
Mae sioeau a gwerthiannau, neu werthiannau a fyddai fel arfer yn denu crynhoad mawr o bobl, megis gwerthiannau teirw pedigri wedi’u gwahardd o dan y cyhoeddiad hwn.
Yn achos gwerthiannau teirw, mae nifer o gymdeithasau brid yn cyd-weithio gyda’r arwerthwyr perthnasol i greu catalogau digidol ar gyfer y stoc sydd ar gael gyda manylion y gwerthwyr, felly gall prynwyr gysylltu â gwerthwyr yn uniongyrchol. Mae systemau hefyd wedi’u datblygu gan ‘Newline’ (sef meddalwedd arwerthiant poblogaidd) a’r ‘Farmers Guardian’ i gynorthwyo gyda gwerthu stoc brîdio. Mae gwefan ‘Auction Marts’ gan ‘Newline’ yn cynnig mynediad i arwerthiannau ar-lein wedi’u hamseru, ac mae’r ‘Farmers Guardian’ wedi ehangu eu gwefan dosbarthol; sef FGBuyandSell.com; gyda lle i gofrestru am ddim a stoc sydd ar werth ar-lein yn unig.
Er nad yw’r cyfyngiadau hyn wedi bod yn ddelfrydol, maent wedi galluogi gwerthiannau da byw i barhau trwy gydol yr adeg ansicr hon mewn modd diogel, a hebddo, byddai’r effeithiau ar y diwydiant da byw wedi bod yn hynod arwyddocaol. Mae’r mesurau o dan adolygiad cyson, a phan fydd y sefyllfa’n gwella, a’r cyrff llywodraethol yn ei ystyried yn briodol, bydd y mesurau yn cael eu gwaredu yn raddol, pan fydd hi’n ddiogel gwneud.
Mae Agri Advisor yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â beth sydd wedi’i ganiatáu o ran gwerthu stoc yn ystod yr adeg anodd hyn.