Rhybudd am y Dyfodol
Yn dilyn ein cylchlythyr cyn-gyllideb yn gynharach eleni, yn ogystal â’r Gyllideb yng nghanol Covid wedi hwnnw ym mis Mawrth, mae yna sibrydion yn awr y bydd cyllideb brys yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â bydd y Llywodraeth yn ei gweld hi’n addas i wneud, a all fod cyn y Gyllideb ym mis Hydref.
Rydym yn ymwybodol o’r gwariant cyhoeddus digynsail, sy’n parhau bob dydd ar gyflymder na welwyd ei thebyg o’r blaen, a fydd yn y pen draw yn arwain at gynnydd mewn trethi, yn bendant yn y tymor byr a chanolig.
Mae’r Llywodraeth wedi derbyn dau Adroddiad (un gan grŵp hollbleidiol seneddol (APPG) sef ‘Reform of Inheritance Tax’ (Ionawr 2020) ac adroddiad gan y Swyddfa Symleiddio Treth (OTS) ym mis Rhagfyr 2019) gydag awgrymiadau ar sut i symleiddio’r system dreth. Roedd y newidiadau i gyllideb mis Mawrth 2020 yn ddisgwyliedig yng ngolau rhai o’r awgrymiadau hyn, ond o bosib maent wedi’u hoedi tan i gwmwl Covid-19 godi. Fodd bynnag, gyda chyllideb bellach ar y gweill, rhaid i ni fod yn wyliadwrus o’r trafodaethau gall fod yn digwydd yn y Trysorlys ynglŷn â symleiddiad ein trethi cyfalaf a’r effaith gall hyn gael ar ffermwyr a thirfeddianwyr os byddant yn dod i rym.
Y prif gynigion yw:
- Bydd y raddfa Treth Etifeddiant (Inheritance Tax) o 40% yn cael ei ddisodli gan gyfradd safonol o 10% am ystadau o dan £2 filiwn ac 20% am yr ystadau sydd gwerth mwy nag hyn. Yn ogystal, bydd y rhyddhadau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael eu diddymu.
- Rhyddhad Eiddo Amaethyddol (APR): mae ffermwyr a thirfeddianwyr ar hyn o bryd yn cael budd APR ar eu hystadau (yn ddarostyngedig i fodloni ambell amod), a chodiad mewn gwerth Treth ar Enillion Cyfalaf (CGT) ar farwolaeth; gan olygu y gallant basio ased fferm i’r genhedlaeth nesaf heb orfod talu IHT neu CGT.
Y mae wedi’i awgrymu bod ffermwyr o dan fantais annheg o achos y rhyddhadau hyn felly er mwyn delio â hyn, mae’r APPG wedi awgrymu gwaredu APR yn gyfan gwbl a chreu cyfradd Treth Etifeddiaeth (10% neu 20%) ar draws gwerth yr ystâd cyfan, gan gynnwys y fferm a thiroedd. Gall hwn gael effaith ddifrifol ar y rhai hynny sydd wedi gosod cynlluniau olyniaeth mewn lle ac wedi trefnu eu hystâd yn unol â’r rheolau IHT ar hyn o bryd, yn ogystal ag hyfywedd parhaus o’r fferm am olynwyr teitl. Ar hyn o bryd, er gwaethaf gwerth ystâd yr ymadawedig, pan fydd y ffermwr yn marw ac yn rhoi’r fferm fel anrheg ar ei farwolaeth, ni fydd IHT yn daladwy (os bydd yr amodau perthnasol wedi’u bodloni).
- Treth Enillion Cyfalaf (CGT): Nid yn unig bydd rhaid i ffermwyr gystadlu â’r uchod, ond mae’r awgrymiadau yn mynd gam ymhellach ac yn awgrymu na ddylai’r ystâd gal budd codiad CGT ar farwolaeth. O dan yr awgrymiad, pe bai ysgutor yn gwerthu eiddo yn ystod cwrs gweinyddu’r ystâd, yna bydd CGT yn 20% neu 28% o’r cynnydd mewn gwerth ers i’r unigolyn sydd wedi marw gaffael yr eiddo, a allai fod ddegawdau yn ôl, felly bydd y cynnydd a ddefnyddir i gyfrifo CGT yn sylweddol. Golyga hyn, os bydd y fferm yn cael ei roi fel anrheg ar farwolaeth i’r genhedlaeth nesaf, yna byddant yn etifeddu atebolrwydd CGT yr unigolyn sydd wedi marw (a gyfrifir ar y dyddiad y maent yn caffael yr eiddo) a, pe baent yn gwerthu’r eiddo, bydd gennynt y ddau atebolrwydd i’w talu.
- Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR): Mae gan ffermwyr sydd wedi marw ar hyn o bryd fudd o wneud cais am BPR ar eu hasedau masnach busnes fferm. Mae’r Adroddiad APPG yn awgrymu y dylai hwn gael ei waredu yn gyfan gwbl gan olygu y byddai gwerth yr asedau hynny yn destun i Dreth Etifeddiaeth. Nid yw’r Adroddiad OTS fodd bynnag yn mynd mor bell ag awgrymu y dylai gael ei ddiddymu ond y dylai gael ei dynhau, gydag ystyriaeth i sut ddylid gymhwyso’r prawf ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf’. Mae hwn yn ymwneud â’r cydbwysedd rhwng asedau masnachu ac asedau buddsoddi mewn busnes. Y mae felly, o bosib, yn amser da i adolygu cyfrifion ac ystyried balans incwm a gwerth ased rhwng yr elfennau masnachu a buddsoddi yn y busnes.
- Anrhegion: Ar hyn o bryd, mae gan bob unigolyn lwfans personol blynyddol o £3,000 a gallant ei roi fel anrheg heb iddo ffurfio rhan o’r ystâd am bwrpas Treth Etifeddiaeth. Os bydd symiau uwch na hyn yn cael ei roi fel anrheg, byddant yn ffurfio rhan o’r ystâd ar farwolaeth oni bai bod anrhegion wedi’u gwneud mwy na 7 blynedd cyn marwolaeth. Hoff opsiwn yr APPG yw talu treth ar BOB anrheg yn ystod bywyd (oni bai am anrhegion rhwng priod neu i Elusen) pan maent wedi’u gwneud ar 10%, sy’n destun i eithriad blynyddol o £30,000. Bydd y rheol 7 blynedd a meinhau treth hefyd yn cael eu diddymu. Bydd y taliad 10% yn gymwys i anrhegion fferm/tir fferm er ei fod wedi’i awgrymu y gallai gael ei dalu mewn rhandaliadau di-log dros 10 blynedd. Yn ogystal i’r treth anrheg yn ystod bywyd, awgrymir y dylai Treth Enillion Cyfalaf hefyd gael ei dalu wrth waredu’r eiddo. Mae gwerth y tir fferm yn golygu y bydd treth sylweddol i’w dalu os bydd y rheolau am anrhegion yn ystod bywyd yn dod i rym.
Fel ffermwyr mae yna risg y bydd nifer o’r offerynnau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael eu diddymu’n llwyr. Yn Agri Advisor rydym yn annog trafodaethau am drefnu olyniaeth yn gynnar yn y busnes fferm ac yn meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n gofyn y cwestiynau am gynllun i’r dyfodol ar gyfer busnes ffermio, am unigolion o fewn y busnes hynny a helpu ein cleientiaid i lunio cynllun sy’n eu galluogi i gofnodi eu nodau ac amcanion. Nid yw rhain yn drafodaethau i’w gadael ar gyfer diwrnod arall gan fod y broses o drefnu olyniaeth yn cymryd amser ac ystyriaeth gofalus. Mae yna gymaint o ansicrwydd y mae’n rhaid i ni gystadlu yn eu herbyn ond mae trefnu olyniaeth yn un elfen lle gallwch leihau risg ac ansicrwydd drwy gymryd yr awennau a threfnu ar gyfer y dyfodol.
Cysylltwch â mi, neu aelod o’n tîm trefnu olyniaeth arbenigol i drafod hyn ymhellach neu am gyngor.