Gweithwyr Amaethyddol a’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith
Mae’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith yn Gyfarwyddeb o dan Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi hawliau i weithwyr yr Undeb Ewropeaidd i dderbyn gwyliau wedi’u talu bob blwyddyn, toriadau gorffwys, a thoriadau gorffwys rhwng sifftiau er mwyn osgoi oriau gweithio gormodol.
Mae yna rwpiau o weithwyr sydd wedi’u heithrio’n llwyr o’r hawliau oriau gweithio. Maent yn cynnwys Staff Cludiant Symudol e.e. Gyrwyr Trên, Morwyr, Gweithwyr Cludiant Symudol Awyr, Gyrwyr Lori a Thrafnidiaeth Gyhoeddus ayyb. Ceir grwpiau arall o weithwyr sy’n destun i’r hawliau oriau Gwaith ond mae gan eu cyflogwyr fwy o hyblygrwydd o ran sut i’w gorfodi. Mae’r rhain yn cynnwys swyddi sy’n gofyn am ‘barhad gwasanaeth neu gynhyrchiant’ megis Gweithwyr Amaethyddol oherwydd ni ellir tarfu ar y gwaith megis bwydo da byw.
Bydd swyddi lle ceir brig tymhorol, megis gweithwyr fferm sy’n wyna, lloia, bwydo da byw yn destun i Reoliadau’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith 1998. Mae’r gweithwyr hyn yn cwympo o dan elfen ‘achosion arbennig’ y ddeddfwriaeth sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd i gyflogwyr gyda thoriadau gorffwys o dan y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith.
Gall mentrau amaethyddol wynebu cyfnod prysur iawn gydag angen cynyddol i’w gweithwyr weithio oriau hirach neu sifftiau ychwanegol er mwyn ateb y galw e.e. adeg cynaeafu neu wyna. Mae hwn yn gyffredin yn y diwydiant ffermio, lle mae tymhorau’n newid yn golygu newid mewn patrymau gwaith. Gall fod yn angenrheidiol i ofyn i weithiwr hepgor eu patrymau gwaith arferol er mwyn lletya’r cyfnodau prysur. Dylai cyflogwyr fod yn ofalus er mwyn sicrhau nad ydynt yn torri eu goblygiadau i’r gweithwyr o ran eu toriadau gorffwys.
Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol bod gan weithwyr hawl i gyfnod gorffwys dyddiol o 11 awr heb ei darfu ym mhob cyfnod o 24 awr, a chyfnod gorffwys wythnosol o 24 awr heb ei darfu ym mhob cyfnod saith-diwrnod. Gall y cyfnod gorffwys wythnosol gynnwys dau gyfnod gorffwys o 24 awr heb ei darfu (neu 48 awr) ym mhob 14 diwrnod yn lle.
Nid yw’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith yn galluogi’r cyflogwr, mewn achosion cyfyngedig, i ofyn i weithwyr penodol i weithio yn ystod cyfnodau gorffwys. Gall hwn gael ei wneud os yw’r amgylchiadau’n cwympo o fewn diffiniad ‘achosion arbenig’. Mae’r diffiniad yn cynnwys,
“lle mae gweithgareddau’r gweithiwr yn cynnwys yr angen am barhad gwasanaeth neu gynhyrchiant, mewn perthynas ag…amaethyddiaeth”
neu
“lle mae yna dyfiant rhagweladwy mewn gweithgaredd, mewn perthynas ag…amaethyddiaeth”
Mae’n bwysig nodi os yw’r cyflogwr angen i’r gweithiwr weithio trwy ei gyfnod gorffwys, rhaid iddynt alluogi’r gweithiwr i gymryd cyfnod cyfatebol i orffwys, a ddylai fod yr un faint â’r tarfiad ar y cyfnodau gorffwys. Dylai’r cyfnod gorffwys cydadferol gael ei gymryd cyn gynted â phosib, os nad yn syth ar ôl gweithio, er nad oes amserlen wedi’i ddiffinio.
Gwybodaeth bellach
Os hoffech drafod unrhyw elfen o’r erthygl hon neu os am gymorth gyda’ch patrwm gweithio amaethyddol, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyfraith Gyflogaeth, Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.