Ymgynghoriad i fynd i’r afael â materion yng Nghadwyn Gyflenwi’r Sector Llaeth
Mae ymgynghoriad gan 4 Llywodraeth y DU newydd gael ei lansio i adolygu’r berthynas yn y sector ac i geisio dod ag arferion annheg yn y gadwyn gyflenwi i ben.
Mae llawer o ffermwyr llaeth wedi’u cael eu hunain yn ddiweddar mewn sefyllfaoedd anodd iawn oherwydd yr effaith enfawr y mae cyfyngiadau Covid-19 wedi’u cael ar batrymau defnydd arferol cynnyrch llaeth. Mae’r sefyllfa wedi tynnu sylw at y diffyg dylanwad a phŵer sydd gan ffermwyr yn y sefyllfaoedd hyn a sut mae rhai prynwyr llaeth wedi inswleiddio’u hunain rhag colledion, tra’n eu trosglwyddo i’r cynhyrchwr yn llwyr. I rai, dyma’r enghraifft ddiweddaraf o natur anodd y berthynas rhwng cynhyrchwyr a phroseswyr.
Daw’r ymgynghoriad yn dilyn Galwad Dyfarnwr y Cod Bwyd am Dystiolaeth yn 2016, a dynnodd sylw at batrwm o arferion annheg a diffyg tryloywder o fewn y diwydiant. Fel y bydd llawer yn gwybod yn iawn, ar hyn o bryd mae gan brynwyr llaeth y pŵer i bennu prisiau llaeth a’u newid, yn aml heb fawr o rybudd. Mae rôl y manwerthwyr o ran penodi’r pris hefyd yn destun pryder. Ynghyd â chyfnodau rhybudd hir, roedd digon o bryder am weithrediad y farchnad a arweiniodd at yr ymgynghoriad hwn. Mae Cod Gwirfoddol ar waith ar hyn o bryd ond, fel yr awgryma’r enw, nid yw pob prynwr llaeth wedi ymrwymo i’r safonau gofynnol.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar Fedi 15fed 2020 a bydd yn gofyn am gyfraniadau gan ffermwyr llaeth i weld a fyddai modd cyflwyno rheoliadau neu gontractau gorfodol er mwyn gwella’r ffordd y mae’r farchnad yn gweithredu. Un o’r cynigion yw system brisio orfodol ym mhob contract i sicrhau bod y pris a delir yn cael ei gytuno’n ffurfiol a bod y cyfrifiadau’n dryloyw.
P’un a fyddech yn cefnogi telerau contract gorfodol ai peidio, mae hwn yn amser pwysig iawn i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed. Bydd 2021 yn cychwyn ar gyfnod newydd i amaethyddiaeth yn y DU gan ein bod yn gadael yr UE yn llwyr ac mae angen i ffermwyr wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod y marchnadoedd y maent yn gweithredu ynddynt yn gweithio’n dda ac yn addas i’r diben.
Gallwch fynegi eich barn yn https://consult.defra.gov.uk/agri-food-chain-directorate/contractual-relationships-in-the-uk-dairy-industry/
Cofiwch, os oes angen unrhyw gyngor arnoch mewn perthynas â’ch contract llaeth neu unrhyw fater cyfreithiol arall sy’n ymwneud â’ch busnes, mae croeso i chi gysylltu â ni.