Deddfwriaeth Newydd Ynglŷn â Thystio i Ewyllys
Mae’r argyfwng coronafeirws wedi dod â heriau yn ei sgil i’r rhan fwyaf o broffesiynau. Un o’r rhai a wynebir gan y proffesiwn cyfreithiol fu’r mater o sut i dystio’n ddiogel i wneud Ewyllys a chynnal mesurau ymbellhau cymdeithasol – yn enwedig lle mae’r sawl sy’n gwneud yr Ewyllys yn gwarchod ei hun neu’n hunan-ynysu.
Mae’r gyfraith sy’n nodi sut mae’n rhaid arwyddo a thystio yn mynd yn ôl i 1837. Er mwyn i’r Ewyllys fod yn ddilys, mae’n ofynnol bod dau dyst annibynnol yn bresennol, yn ogystal â’r person sy’n llofnodi’r Ewyllys (yr Ewyllyswr). Dylai’r ddau dyst (ar yr un pryd) fod ym mhresenoldeb yr Ewyllyswr pan fydd yr Ewyllys yn cael ei lofnodi a rhaid i’r tystion wedyn lofnodi ym mhresenoldeb yr Ewyllyswr a’i gilydd. Os bydd buddiolwr neu briod yn gweithredu fel tyst yna ni fyddant yn derbyn eu rhodd o dan yr Ewyllys, felly fel arfer nid ydym yn argymhell bod aelodau’r teulu yn gweithredu fel tystion.
Er bod y rheolau cyfarwyddol hyn yn gyffredinol yn diogelu’n dda rhag gorfodaeth neu ddylanwad gormodol, yn y cyfnod hwn o fesurau ymbellhau cymdeithasol maent wedi rhoi ychydig o heriau i ni’r cyfreithwyr, yn enwedig pan fyddwch yn ystyried fel gwasanaeth byddwn fel arfer yn cynnig gweithredu fel tystion i Ewyllysiau ein cleientiaid. Y dyddiau hyn, am resymau ymarferol, efallai na fydd yn bosibl gwneud hynny.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Llywodraeth fesurau i lacio’r rheolau yng Nghymru a Lloegr. Ar yr olwg gyntaf efallai y byddai hyn yn ymddangos yn gonsesiwn i’w groesawu, ond am lawer o resymau dylid bod yn ofalus wrth ymdrin â’r mesurau newydd.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn galluogi unigolion i dystio gweithred eu Hewyllys ar fodd fideo os na allant gadw at y rheolau arferol. Felly, os yw rhywun yn gwarchod ei hun ac nad oes ffordd ymarferol o drefnu i dystion fod yno, gallant gyflawni eu Hewyllys ym mhresenoldeb tystion drwy gyswllt fideo a bydd hwn yn ddilys yn gyfreithiol.
Rhaid dweud, fodd bynnag, fod y cynnig hwn yn cyflwyno ei heriau ei hun. Mae cael gwared ar yr angen i dystion fod yn gorfforol bresennol yn arwain at lawer mwy o risg o her, cyfle am gamdriniaeth ac amheuaeth os dilynwyd y weithdrefn yn gywir.
Nid yw union fanylion y ddeddfwriaeth yn glir eto. Ni fydd yn dod i rym tan fis Medi 2020 er ein bod yn deall y bydd yn gymwys yn ôlweithredol ers 31 Ionawr 2020.
Ni ddylai’r dull newydd o dystio o bellter gymryd lle’r dull confensiynol o dystion corfforol. Dim ond mewn argyfwng y dylid defnyddio’r dull o dystio o bellter pan fo tystio confensiynol yn amhosib. Mae angen bod yn ofalus iawn wrth gymryd y camau hyn.
Yma yn Agri Advisor rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i alluogi ein cleientiaid i barhau i wneud eu Hewyllys yn ystod yr argyfwng hwn. Mae hyn wedi gweld aelodau o’n staff yn tystio i Ewyllysiau drwy ffenestri agored, mewn gerddi ac ar bonnets ceir! Ein cyngor yw bod trefniadau fel y rhain ar gyfer tystio i Ewyllysiau’n gorfforol yn well o lawer, ac y dylid eu hystyried yn gyntaf bob amser. Yn sicr, ni ddylid ymgymryd ag unrhyw drefniadau tystio trwy fideo heb gyngor cyfreithiol priodol.
Gall gwneud Ewyllys fod yn fater cymhleth ac nid yw byth yn syml felly os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y broses, cysylltwch ag un o’n tîm o gyfreithwyr profiadol.