Karen ac Elin yn FALA
Mae Agri Advisor yn falch o gyhoeddi bod Karen Anthony ac Elin Owen wedi dod yn Gymrodyr o’r Gymdeithas Gyfraith Amaethyddol (ALA) wedi iddynt basio’r arholiad Gymrodoriaeth.
Am bron i 40 mlynedd mae’r ALA wedi bod yn fforwm ar gyfer pobl broffesiynol sy’n gweithio yn y byd amaeth – cyfreithwyr, tirfesurwyr, cyfrifwyr, gweithwyr banc, ymgynghorwyr busnes fferm a’r Gymrodoriaeth yw’r acolâd uchaf sy’n cael ei wobrwyo i’r rhai sy’n dangos arbenigedd wrth gynghori ar gyfraith amaethyddol a gwledig. Mae Karen ac Elin yn ymuno â Nerys Llewelyn Jones, Lydia James, Rachel Phillips, Rhodri Jones a Manon Williams sy’n Gymrodyr y Gymdeithas yn barod.
Dywedodd Karen ac Elin “Rydym yn hapus iawn o fod wedi ein gwobrwyo gyda Chymrodoriaeth y Gymdeithas Gyfraith Amaethyddol. Mae bod yn aelod o’r grŵp uchel eu parch o Gymrodyr yr ALA y DU yn hynod gyffrous ac rydym yn edrych ymlaen at gynnig budd ein hyfforddiant ac arbenigedd i’n cleientiaid yn y dyfodol.”
Dywedodd Nerys ‘Rydym yn falch iawn o Karen ac Elin ar eu cyflawniad diweddar ac mae’n dyst i’w gwaith caled, ymrwymiad a gwybodaeth o’r Gyfraith Amaethyddol. Mae hefyd yn golygu bod gan Agri Advisor safle eiddigus o gael cyfanswm o saith Cymrodor yn ein tîm sy’n dangos cryfder a dyfnder ein tîm wrth gynghori ar faterion amaethyddol.’