Mae ein swyddfeydd ar agor, ond drwy apwyntiad yn unig.
Drwy gydol y cyfnod cloi, rydym yn gwerthfawrogi nad cynadledda fideo a galwadau rhithiol yw’r ffordd fwyaf addas bob tro ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Os oes angen cyfarfod wyneb yn wyneb, rydym yn awr yn cynnal nifer cyfyngedig o gyfarfodydd cleientiaid yn ein swyddfeydd. I helpu i’ch cadw chi a’n staff yn ddiogel dyma rai canllawiau rydym wedi’u creu:
Cyfarfodydd yn y Swyddfa
Mae’r rhan fwyaf o’n staff yn parhau i weithio o adref, nid ydynt yn debygol o fod yn y swyddfa neu’n gallu bod ar gael am gyfarfod os byddwch yn galw heibio. Gofynnwn yn garedig i chi drefnu cyfarfod yn uniongyrchol gydag un o’n haelodau staff.
Beth i’w ddisgwyl wrth ymweld â’n swyddfeydd
Dylech gyrraedd ar amser ar gyfer eich cyfarfod a dylech osgoi cyrraedd yn gynnar. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad oes gormod o bobl y tu mewn i’n swyddfeydd.
Cnociwch ar y drws pan fyddwch yn cyrraedd a bydd aelod o staff yn eich croesawu. Dilynir canllawiau ymbellhau cymdeithasol bob amser, mae hwn yn cynnwys aros 2 fetr oddi wrth eich gilydd a pheidio ag ysgwyd dwylo.
Ar ôl i chi ddod i mewn i’r Swyddfa, gofynnir i chi lanhau eich dwylo. Bydd eich tymheredd hefyd yn cael ei gymryd a’i gofnodi’n gyfrinachol. Yna, bydd aelod o staff yn mynd â chi’n syth i’r ystafell gyfarfod. Yn ystod y cyfarfod, mae croeso i chi a’n staff wisgo gorchudd hwyneb os dymunir.
Ar ôl i’r cyfarfod orffen, byddwn yn gweithredu system ‘ un ffordd ‘ yn ein swyddfeydd. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd ein haelod staff yn sicrhau bod y ffordd allan yn glir ac yn eich arwain allan o’r ystafell gyfarfod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â’n canllawiau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01558 650381.