Cyfyngiadau Newydd ar Fusnesau bwyd a diod – Covid-19
23ain o Fedi 2020
O ddydd Gwener, 18fed o Fedi 2020, mae busnesau sy’n cynnwys tafarndai, caffis, bwytai neu unrhyw fusnes perthnasol arall sy’n darparu bwyd neu ddiod ar gyfer defnydd ar y maes yn destun i gyfreithiau a chosbau newydd fel rhan o strategaeth newydd y Llywodraeth i oresgyn Covid-19.
Mae’r darpariaethau newydd wedi’u cynnwys isod,
Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am bob busnes gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y canlynol yn cael eu dilyn:
- Ni fydd archebion bwrdd yn cael eu derbyn am grŵp o fwy na’ chwe pherson oni bai bod un o’r eithriadau presennol ar ymgynnull yn berthnasol.
- Ni fydd grŵp o fwy na chwe pherson yn cael mynediad i adeilad – eto oni bai bod un o’r eithriadau ar ymgynnull yn berthnasol.
- Ni all un person mewn grŵp cymwys gymysgu ag unrhyw berson mewn grŵp cymwys arall oni bai iddo fod wedi’i ganiatáu e.e. aelwydydd cysylltiedig.
- Yn ogystal, rhaid iddynt sicrhau bod pellter addas yn cael ei gadw rhwng byrddau sydd wedi’u meddiannu gan ‘grwpiau cymwys’ gwahanol.
- Mae ‘pellter addas’ yn golygu pellter rhwng byrddau o:
- oleiaf dau fetr, neu
- oleiaf un metr, os:
- oes yna rwystrau neu sgriniau rhwng y byrddau.
- Mae’r byrddau wedi’u trefnu gyda seddi cefn wrth gefn, neu fel arall wedi’u trefnu i sicrhau nad yw’r bobl sy’n eistedd wrth un bwrdd yn wynebu unrhyw berson sy’n eistedd wrth fwrdd arall gyda phellter o lai na dau fetr.
Mae gan y person sy’n gyfrifol am y busnes oblygiad cyfreithiol i ddilyn y rheolau. Ni ellir dwyn y staff, sydd ddim yn rhedeg y busnes, i gyfrif o dan y rheoliadau newydd.
Cosb – gellir cael ffi llys amhenodol neu chosb sefydlog o £1,000. Wrth ddilyn y rheoliadau arall, bydd y cosbau sefydlog yn cael eu dyblu am bob trosedd ddilynol, hyd at fwyafswm o £4,000.
Cyngor Pellach
Os hoffech unrhyw gyngor Busnes Covid-19, cysylltwch gyda’n Cyfreithwraig Cyflogaeth a Masnach Sasha Brine ar 07475069698.