Cynllun Cadw Swyddi – Covid-19
O’r 1af o Fedi mae Cynllun Cadw Swyddi’r Coronafirws (CJRS) neu’r “Cynllun Ffyrlo” wedi newid llawer. Bydd y Cynllun yn awr ond yn talu hyd at 70% o gyflogau am unrhyw amser i ffwrdd o’r gwaith ar ffyrlo, hyd at uchafswm o £2,187.50.
Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod gweithwyr yn derbyn 80% o’u tâl arferol tra’u bod i ffwrdd o’r gwaith ar ffyrlo (hyd at uchafswm o £2,500). Er mwyn sicrhau nad oes problemau yn amgylchynu hawliadau lleihad mewn cyflog rhaid i’r ddau ffigwr gael ei dopio i fyny gan gyflogwyr.
Rhaid i gwmnïoedd barhau i gyflawni buddion cytundebol a thalu cyfraniadau NI a chyfraniadau pensiwn yn ystod y cyfnod ffyrlo.
Cyngor pellach
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r erthygl hon neu os oes angen cymorth gydag un o’ch gweithwyr, cysylltwch gyda’n Cyfreithwraig Cyfraith Cyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.