Penderfyniad Apelgar Iawn!
Gyda’r amserlenni prysur y mae’n rhaid i Ffermwyr glynu at yn ystod calendr ffermio’r flwyddyn, mae’n llawer rhy hawdd i golli dyddiadau cau pwysig. Mae rhai dyddiadau cau wedi’u cerfio ym meddwl ffermwyr, gyda’r 15fed o Fai (neu’r 15fed of Fehefin fel yr oedd hi eleni), dyddiad cau Cynllun y Taliad Safonol yn un o lawer.
Fodd bynnag, y mae hyd yn oed yn fwy anodd i ffermwyr dderbyn bod rhaid iddynt weithredu’n gyflym ar ôl derbyn llythyr, cadarnhad ffurfiol neu neges ar eu cyfrif RPW yn datgan penderfyniad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thorri unrhyw draws-gydymffurfiad neu o ran eu hawliau BPS.
Mae’r erthygl hon yn ceisio egluro gwreiddiad y dyddiadau cau a ganiateir er mwyn apelio penderfyniad sydd wedi’u wneud o ran eu hawliau BPS. Ar hyn o bryd, ceir proses apelio dau gam:
Cam Un – rhaid i geisiadau apêl, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth gefnogol gael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru o fewn 60 diwrnod o ddyddiad y llythyr sy’n manylu’r penderfyniad. Dylid apelio trwy lythyr neu e-bost, a bydd swyddogion yn ymgymryd ag adolygiad mewnol gyda swyddog uwch yn penderfynu p’un ai bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir, gan ystyried y mater ac unrhyw ddogfennau ategol. Bydd ateb llawn yn cael ei gyhoeddi ar bapur, gan gynghori p’un ai bod yr apêl wedi bod yn llwyddiannus ai peidio a’r rhesymau dros y penderfyniad.
Cam Dau – sy’n caniatáu 60 diwrnod i’r ffermiwr o ddyddiad llythyr penderfyniad Cam Un i apelio i’r Ysgrifenyddiaeth Apeliadau Annibynnol yn Swyddfa Adrannol Llandrindod. Rhaid i’r cais gael ei wneud ar bapur a rhaid cwblhau ffurflen gais (GAPv4) yn ogystal. Bydd apêl Cam Dau yna’n cael ei ystyried gan banel annibynnol a fydd yn gwneud argymhelliad i’r Gweinidog ar Faterion Gwledig sydd â’r gair olaf. Rhaid talu ffi apêl o £100 am wrandawiad llafar a £50 am wrandawiad ysgrifenedig.
Mae Trydydd Cam ar gael i ffermwyr sy’n anhapus gyda phenderfyniad y Gweinidog, sef gwneud cais am Adolygiad Barnwrol. Mae’r cais hyn yn cael ei wneud yn yr Uchel Lys a gellir ei ddefnyddio er mwyn herio dilysrwydd sut cafodd penderfyniad ei wneud h.y. p’un ai bod penderfyniad wedi’i wneud yn rhesymol a theg. Dylai Ffermwyr gymryd cyngor yn syth ar ôl derbyn penderfyniad y Gweinidog o ran p’un ai bod gan yr achos rinweddau am gais adolygiad barnwrol. Rhaid gwneud cais o’r fath ar frys gan fod rhaid ei ffeilio gyda’r Llys dim hwyrach na 3 mis o ddyddiad y penderfyniad.
Felly, rhaid i ffermwyr fod yn wyliadwrus o ran pryd mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru’n cael eu gwneud o ran eu busnesau ffermio ac ymateb yn syth drwy gysylltu gyda’u Hundeb neu Cynrychiolwr Cyfreithiol er mwyn caffael cyngor ar rhinweddau gwneud cais neu apêl ar gyfer adolygiad barnwrol.
Os hoffech fwy o gyngor neu gymorth wrth wneud apêl, cysylltwch gyda Katie Davies ar 01558 650381.