Yr Uchel Lys yn pennu bod ehangu meithrinfa planhigion i gynnwys tŷ te yn mynd y tu hwnt i ddefnydd amaethyddol
Darganfu achos Mills v Estate of Partridge and another [2020] EWHC 2171 (Ch) (“Mills”) fis diwethaf bod cynllun arallgyfeirio busnes meithrinfa blanhigion i gynnwys gweithgareddau an-amaethyddol, yn benodol rhedeg tŷ te ar yr ochr, yn mynd y tu hwnt i sgôp yr hawddfraint oedd yn gwarantu mynediad i’r safle a hefyd yn torri’r cyfamod cyfyngol a oedd yn ofynnol i’r tir i gael ei ddefnyddio am bwrpas amaethyddol yn unig.
Cefndir
Y mae wedi’i hen sefydlu bod sgôp hawddfraint (gwarantu neu neilltuo hawl dros dir er budd darn o dir arall) yn medru cael ei gyfyngu gan y termau neu’r amgylchiadau sy’n amgylchynu’r hawl gwreiddiol a gafodd ei greu. Er enghraifft, os oes hawl wedi’i warantu ar gyfer “caffael mynediad i adeiladau’r fferm ar Eiddo A”, yna pe bai’r adeiladau fferm hynny’n cael eu trosi neu’n cael eu defnyddio ar gyfer defnydd preswyl, mae’n bosib na ellid parhau i ddefnyddio’r hawl tramwy hynny. Mewn anghydfod, mae’r Llysoedd yn ystyried natur defnydd yr hawl, pwrpas y defnydd, ac amlder y defnydd, yn aml gan ystyried natur y tir sy’n destun i fudd yr hawl pan warantwyd yr hawl yn y lle cyntaf. Pe bai natur y tir sy’n destun i fudd yr hawl yn newid dros amser, fel y digwyddodd yn achos Mills, yna gall hwn feddwl na ellir defnyddio’r hawl yn gyfreithlon ar gyfer defnydd “newydd” y tir perthnasol.
Yr Achos
Roedd y Diffynyddion yn berchnogion ar dir a gafodd ei ddefnyddio i dyfu planhigion a llysiau i gychwyn. Cafwyd mynediad i’r tir dros drac o berchnogaeth yr Hawlwyr. Roedd gan y Diffynyddion fudd o hawl tramwy dros y trac i “basio ac ail-basio ar bob adeg ar gyfer pob pwrpas mewn perthynas â defnydd fel tir amaethyddol yn unig”. Roedd yna hefyd gyfamod yn effeithio darn o’r tir a oedd yn cyfyngu ei ddefnydd fel tir amaethyddol yn unig.
Tyfodd busnes y Diffynyddion dros gyfnod o 40 blynedd i gynnwys twneli poli, adeiladau, stablau, siop a thŷ te (a oedd yn dal trwydded adloniant ei hun ac oedd yn cael ei ddefnyddio’n aml i gynnal digwyddiadau). Roedd y darn o dir perthnasol yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio ar gyfer ymwelwyr a staff ac ar gyfer storio.
Y Penderfyniad
Dadleuodd yr Hawlwyr bod y defnydd yma’n ddefnydd gormodol o’r hawl tramwy presennol, a chytunodd yr Uchel Lys gan ddyfarnu o’u plaid. Penderfynodd y Llys hefyd bod y defnydd hwn yn torri’r cyfamod a oedd yn cyfyngu’r tir i gael ei ddefnyddio am bwrpas amaethyddol yn unig. Derbyniodd yr Uchel Lys y gall gweithgareddau amaethyddol ddatblygu dros amser, fodd bynnag, datganwyd na ddylent gael eu drysu gydag arallgyfeiriad i weithgareddau an-amaethyddol. Dyma oedd y broblem yn yr achos hwn gan na ellid defnyddio’r hawddfraint I gael mynediad i’r tir unwaith y byddai’n cael ei ddefnyddio fel maes parcio a thŷ te. Datganodd yr Uchel Lys bod cyfuniad o drosiant y tŷ te yn ogystal â gweithgareddau an-amaethyddol arall y feithrinfa mor sylweddol fel nad oedd hi’n realistig i gyfri’r busnes fel un amaethyddol yn unig. Fel canlyniad felly, roedd gan yr Hawlwyr hawl i ryddhad o ganlyniad i ddefnydd gormodol y trac, yn ogystal â thresmasu. Noder fodd bynnag nad yw’r rhyddhad wedi’i bennu eto gan yr Uchel Lys. Gall hwn fod yn daliad o iawndal neu, o bosib, rheoliad yn datgan bydd mynediad i’r trac ar gyfer y pwrpasau hyn yn stopio yn gyfan gwbl.
Mae’r achos hyn yn goleuo’r pwysigrwydd o ystyried cyfyngiadau hawddfreintiau a sut gallant effeithio unrhyw gynllun yn y dyfodol i ehangu neu arallgyfeirio busnes. Yn yr achos yma, roedd y busnes wedi datblygu dros gyfnod hir o amser i un a oedd yn wahanol iawn i’r feithrinfa wreiddiol. Nododd yr Uchel Lys, er y gall natur gweithgareddau amaethyddol ddatblygu dros amser, roedd hwn yn cael ei gyfyngu gan yr angen i barchu hawliau’r tir sy’n destun i’r hawl tramwy. Mae’n allweddol i ystyried termau sbesiffig yr hawl tramwy ac unrhyw gyfamod cyfyngol wrth brynu tir a’i ddefnyddio.
Gwybodaeth Bellach
Os yw ffeithiau’r achos hyn yn berthnasol i chi, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r erthygl, cysylltwch ag aelod o Dîm Cyfraith Eiddo Agri Advisor ar 01558 650381.