Mae Hannah yn Ymgymryd â Chontract Hyfforddi
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Hannah Parry wedi dechrau ei Chyfnod Hyfforddiant Cydnabyddedig gydag Agri Advisor.
Ymunodd Hannah â’r tîm yn 2018 fel Ysgrifennydd Cyfreithiol yn ein Swyddfa yn Y Trallwng. Bryd hynny, roedd Hannah yn astudio tuag at ei Chymhwyster GDL y mae bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus. Mae Hannah wedi ennill rhagor o wybodaeth a phrofiad ac, ers adleoli i Gaerdydd, mae wedi dechrau ei hyfforddiant LPC wrth ymgymryd â’i Chontract Hyfforddi gyda ni hefyd.
Dywedodd ein Rheolwr AD Kay Lewis,
‘Mae’n gamp fawr i Hannah weithio’n llawn amser a chwblhau ei GDL yn llwyddiannus; mae’n profi, gyda gwaith caled a phenderfyniad, y gellir cyflawni nodau. Mae hyn yn dangos y cyfleoedd y gallwn eu cynnig o fewn ein busnes i symud ymlaen’.
Medd Nerys Llewelyn Jones, Pennaeth
‘Rydym yn falch iawn o gynnig contract hyfforddi i Hannah. Mae’n aelod gwerthfawr o’n tîm ac edrychwn ymlaen at ei chefnogi drwodd i gymhwyster. Ar hyn o bryd mae gennym bedwar aelod o dan hyfforddiant yn y cwmni ac rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn annog pobl ifanc i weithio a hyfforddi fel cyfreithwyr yn yr ardaloedd gwledig.’
Ychwanegodd Hannah Parry, Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
‘’Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy Nghontract Hyfforddi gydag Agri Advisor. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth yr wyf wedi’u hennill yn ystod fy nghyfnod fel ysgrifennydd cyfreithiol yn amhrisiadwy i mi wrth i mi ddechrau fy nhaith fel Cyfreithiwr o dan Hyfforddiant. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud fy nghontract hyfforddi gydag Agri Advisor a dwi’n gwerthfawrogi eu cefnogaeth barhaus yn fawr iawn’.
Edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am lwyddiant Hannah wrth iddi barhau â’i thaith tuag at ddod yn gyfreithiwr cymwysedig.