Amser i Siarad Treth (eto!)
Mae’r Nadolig fel arfer yn amser i deuluoedd ddod at ei gilydd a mynd i ysbryd y Nadolig ac fel arfer rwy’n cynghori cleientiaid mai dyma’r amser perffaith i drafod olyniaeth – tra bod pawb mewn un lle ac (yn gyffredinol!) mewn hwyliau da. Yn anffodus eleni, ni fydd rhai teuluoedd yn gallu dod at ei gilydd yn yr un ffordd, ond mae bellach yn bwysicach nag erioed i sgyrsiau olynu a threth gael eu cynnal.
Yn ystod 2020, mae Agri Advisor wedi rhyddhau cyfres o erthyglau yn manylu ar adroddiadau sydd wedi cynnig newidiadau i’r drefn dreth bresennol sydd gennym yng Nghymru a Lloegr. Yn gyntaf, cawsom ddau adroddiad mewn perthynas â Threth Etifeddiant, ac yna adolygiad o Dreth Enillion Cyfalaf gan y Swyddfa Symleiddio Trethi. Rydym bellach wedi cael adroddiad y mis hwn ar “Dreth Cyfoeth” bosibl, er na chomisiynwyd yr adroddiad hwn yn swyddogol gan y Llywodraeth.
Mae’r adroddiad yn cynnig codi treth gyfoeth ‘untro’ ar gyfanswm gwerth marchnad agored asedau net unigolyn. Nid yw’r adroddiad yn mynd mor bell ag argymell trothwyon a chyfraddau, gan fod y pwyllgor yn credu mai mater i’r Trysorlys yw hwn, er bod yr enghreifftiau a roddir yn yr adroddiad yn dangos faint o arian y gellid ei gynhyrchu o gyflwyno treth o’r fath. Byddai’r dreth gyfoeth yn cael ei chodi ar sail unigol yn hytrach na fesul aelwyd (er y gellid asesu cyplau ar y cyd) ac mae’r adroddiad yn argymell cyflwyno’r dreth ar unwaith fel nad yw pobl yn cael y cyfle i gynllunio ar gyfer unrhyw dreth. Nid yw’r adroddiad yn caniatáu unrhyw eithriadau, sy’n golygu y byddai asedau gwerthfawr fel ffermydd yn cael eu hystyried fel rhan o gyfoeth unigolyn. Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu bod y trethi presennol yn cael eu diwygio’n sylweddol ochr yn ochr â’r taliad treth cyfoeth ‘untro’. Dywedodd y Canghellor ym mis Gorffennaf 2020 nad oedd yn credu mai dyma’r adeg iawn i gyflwyno treth cyfoeth, ac nid oedd yn teimlo byddai byth adeg iawn i dreth o’r fath; fodd bynnag, mae gwariant y Llywodraeth wedi cynyddu’n sylweddol ers mis Gorffennaf a bydd angen mynd i’r afael a’r diffyg mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Gallai treth gyfoeth ddarparu swm sylweddol o arian mewn cyfnod cymharol fyr gyda’r adroddiad yn cynnig y gellid gwneud taliadau dros gyfnod o bum mlynedd.
Ar ben hyn oll, mae’r Canghellor wedi cadarnhau’r wythnos diwethaf y bydd Cyllideb y Gwanwyn yn cael ei chynnal ar 3ydd o Fawrth 2021. Hwn fydd y digwyddiad cyllidol ffurfiol cyntaf ers 11eg o Fawrth 2020 a disgwylir iddo fanylu ar fesurau ariannol yng ngoleuni Covid-19. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Canghellor hefyd ar yr un pryd y byddai’r cynllun seibiant swydd yn parhau tan 30ain o Ebrill 2021 ac felly byddai’n deg tybio y bydd y gyllideb yn cynnwys mesurau i geisio adennill rhywfaint o’r arian sydd wedi’i ddarparu o ganlyniad i Covid-19. Os yw’r Canghellor yn dal o’r farn nad dyma’r amser i gyflwyno treth cyfoeth, rhaid i ni ofyn beth yw’r dewisiadau eraill i godi arian i ad-dalu’r diffyg. Bu dyfalu eisoes bod mesurau codi trethi’n debygol, ac er y byddai rhywun yn gobeithio na fyddai unrhyw newidiadau o’r fath a gyhoeddwyd ar 3ydd o Fawrth 2021 yn dod i rym tan y flwyddyn ariannol newydd, nid oes sicrwydd o’r fath, ac felly dyma’r amser i roi trefn ar eich materion. Ymrwymodd maniffesto’r Ceidwadwyr i beidio â chynyddu treth incwm, TAW neu Yswiriant Gwladol, ac felly gallai Treth Etifeddiant a Threth Enillion Cyfalaf fod yn drethi a ddaw o dan ystyriaeth.
Gyda hyn mewn golwg, dyma’r amser i siarad am dreth – trafodwch eich cynlluniau olynu a sicrhau eu bod yn effeithlon o ran treth yng ngoleuni’r newidiadau arfaethedig. Os hoffech drafod eich cynlluniau olynu ymhellach, cysylltwch â Manon Williams ar 01239 710942.