Brexit – Beth mae hyn yn ei olygu i Gyflogwyr a gwiriadau’r hawl i weithio
Mae cyfnod pontio Brexit yn raddol dod i ben, bydd rheolau newydd yn dod i rym yn y DU o’r 1af o Ionawr 2021 pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd ddim newid i’r ffordd y mae gwiriadau’r hawl i weithio yn cael eu gwneud tan 30ain o Fehefin 2021, cyn belled â bo’r gweithwyr yn cyrraedd y DU cyn 1af o Ionawr 2021.
Ar y 30ain o Fehefin 2021, bydd gwiriadau cyflogaeth yn newid a bydd rhaid i ddinasyddion yr UE a’r EEA sydd eisiau parhau i weithio yn y DU fod wedi gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog Dinasyddion yr UE. Golyga hyn y bydd rhaid i gyflogwyr weld tystiolaeth o Statws Preswylydd Cyn-sefydlog neu Sefydlog fel rhan o wiriadau Cyflogwyr ar ôl 30ain o Fehefin 2021.
https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families
Bydd Statws Cyn-sefydlog yn cael ei roi i’r rhai a oedd yn byw yn y DU cyn 31ain o Ragfyr 2020 ond sydd wedi byw yn y DU yn barhaol am lain a pum blynedd ar yr adeg y maent yn gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE. Unwaith iddyn nhw wneud cais, golyga hyn y gallant barhau yn y DU am bum mlynedd pellach.
Mae Statws Sefydlog yn cael ei roi i weithwyr sydd wedi byw yn y DU yn barhaol am fwy na 5 mlynedd ar yr adeg y maent yn gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE. Mae Statws Sefydlog yn golygu y gallant barhau yn y DU am gyhyd ag y dymunant, a gallant wneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig.
Os oes gennych weithwyr a fydd yn cyrraedd i fyw a gweithio yn y DU ar ôl y 1af o Ionawr 2021, bydd angen fisa o dan system mewnfudo newydd y DU sydd wedi selio ar bwyntiau. Gall y gweithwyr hyn ddarparu ‘cod gwirio’ ar gyfer system ar-lein er mwyn profi eu statws mewnfudo a fisa fel rhan o’r gwiriad Hawl i Weithio.
Cyngor Pellach
Os hoffech drafod y gwiriadau cyflogaeth neu gymorth i baratoi eich busnes ar gyfer Brexit, yna cysylltwch â’n cyfreithwraig Cyfraith Gyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.