GRANT CYNHYRCHU CYNALIADWY
CHWANT GWNEUD CAIS AR GYFER GRANT CYNHYRCHU CYNALIADWY?
Os oes diddordeb gyda chi mewn gwneud cais ar gyfer grant cynhyrchu cynaliadwy, mae disgwyl i’r ffenest nesaf agor ar y 1af o Chwefror 2021 a chau ar y 12fed o Fawrth 2021. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) er mwyn gwneud cais am grant cyllid 40% tuag at eitemau cyfalaf sydd wedi’u hadnabod o flaen llaw a pheiriannau sy’n rhoi cymorth i ffermwyr fynd i’r afael â gwella ansawdd dŵr a rheolaeth maetholion. Bydd y ceisiadau hynny yna’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a bydd MoDd llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn.
Isafswm y grant cyllid sydd ar gael yw £12,000 a’r mwyafswm yw £50,000. Ar gyllid o 40%, gall cyfanswm cost prosiect for rhwng £30,000 i £125,000. Bydd angen i ymgeisiwyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac o bosib bydd angen i bartner yn y busnes fynychu rhyw fath o ddigwyddiad rhithiol, yn hytrach na’r “Sioe Busnes Fferm Deithiol” arferol.
Gyda chyflwyno’r Parthau Perygl Nitradau Cymru Gyfan o fis Ebrill 2021, does dim adeg pwysicach wedi bod erioed i ymgeisio am gyllid tuag at wella cyfleusterau slyri, a storfeydd silwair. Bydd angen i sotrfeydd slyri yn enwedig ddangos cynhwysedd storio o 5 mis oleiaf er mwyn mynd i’r afael â’r cyfnodau cau newydd dros y gaeaf. Cysylltwch â Katie Davies ar 07495 006849 neu Ellie Watkins ar 07495 006808 am gyngor pellach.
ANGEN HELP GYDA’CH CAIS AR GYFER GRANT CYNHYRCHU CYNALIADWY?
Os ydych wedi bod mor ffodus i gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) ffafriol ar gyfer y grant cynhyrchu cynaliadwy yn rowndiau 4 neu 5, yna rydych wedi’ch gwahodd i gyflwyno cais lawn i gael ei ystyried am gytundeb. O bosib rydych wedi’ch drysu gyda’r holl waith papur sydd angen cyflwyno ar gyfer y cais llawn. Mae Agri Advisor yn fwy na’ hapus i’ch helpu ac yn barod i gynnig pris cystadleuol am gymorth gyda chyflwyno cais lawn.
Yn dilyn cyflwyno MoDd lwyddiannus, mae ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais sy’n cynnwys y wybodaeth ganlynol i’w werthuso gan Lywodraeth Cymru:
- Cynllun Busnes 5 Mlynedd
- Datganiad Meini Prawf Craidd
- Cynlluniau Effeithiolrwydd Maetholion a Dŵr
- 3 Blynedd o Gyfrifion Ardystiedig
- Caniatâd Cynllunio (os yn berthnasol)
- 3 Dyfynbris am bob eitem buddsoddiad sydd wedi’u cynnwys yn y MoDd
Bydd Llywodraeth Cymru yna’n adolygu’r holl wybodaeth hyn er mwyn ceisio penderfynu pa ymgeiswyr bydd yn cael cynnig y cytundeb. Er mwyn i’ch cais gael ei ystyried mewn modd ffafriol, mae’n hanfodol eich bod chi’n darparu portffolio clir a chynhwysfawr sy’n gosod allan yr holl wybodaeth angenrheidiol. Bydd methu â chynhyrchu darnau o’r wybodaeth neu chyflwyno cais aneglur yn rhwystro eich siawns o gael cynnig cytundeb. Mae gennym ni brofiad mewn cyflwyno ceisiadau a sicrhau cyllid grant yn llwyddiannus ac felly rydym ni’n fwy na’ hapus i drafod eich anghenion gan gynnwys cyngor cynllunio os oes angen. Cysylltwch â Katie Davies ar 07495 006849 neu Ellie Watkins ar 07495 006808 am gyngor pellach.