Map Cyfraith Cyflogaeth 2021
Map Cyfraith Cyflogaeth 2021
- Cyfraith Mewnfudo Newydd
O’r 1af o Ionawr, daeth symudiad rhydd pobl i ben fel canlyniad i’r DG yn gadael yr UE. Rhaid i bob wladolyn tramor yn awr fodloni meini prawf penodedig i gael cynnig swydd gan noddwr cymeradwy gan ddefnyddio’r llwybr gwithiwr medrus.
- Cynllun Ffyrlo yn dod i ben
Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r Cynllun Ffyrlo ddod i ben ar y 30ain o Ebrill 2021, gan olygu y dylai Cyflogwyr ddechrau creu cynlluniau ar gyfer eu busnesau heb gymorth wrth y Llywodraeth.
- Cofnodi Bwlch Cyflog Rhywedd
Mae disgwyl i Gofnodi Bwlch Cyflog Rhywedd ddychwelyd eleni yn dilyn ymlacio’r cynllun y llynedd o ganlyniad i Covid-19. Rhaid i Sefydliadau sydd ag oleuaf 250 o weithwyr wneud adroddiadau rhywedd.
- Gofynion IR35 Newydd
Gan gychwyn o fis Ebrill 2021, bydd sefydliadau cymwys (canolig a mawr) yn gyfrifol am asesu statws gyflogaeth contractwyr. O dan y rheolau newydd, lle mae gweithwyr yn cael eu hymgysylltu trwy eu cwmnïoedd nhw eu hunain, mae’r cyfrifoldeb i gymhwyso IR35 a thalu unrhyw dreth a chyfraniad Yswiriant Cenedlaethol yn nwylo’r cwmni preifat, asiantaeth neu drydydd parti sy’n talu cwmni’r gweithiwr. Roedd disgwyl i’r rheolau newydd hyn gael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2020 ond cawsant eu gohirio o ganlyniad i bandemig y Coronafirws. Mae’n debygol y byddant yn dod i rym ym mis Ebrill 2021.
- Datganiadau Caethwasiaeth Fodern
Bydd yna ofyniad ar gwmnïoedd i gynhyrchu Datganiad Caethwasiaeth Fodern. Yn y Datganiad hwn, bydd angen i’r cwmni nodi’r camau maent yn cymryd i ddod i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern e.e. gweithrediadau’r cwmni a’r gadwyn gyflenwi.
- Ymestyn Amddiffyniad Diswyddo ar gyfer Gweithwyr sy’n Feichiog
Ar hyn o bryd, rhaid i weithwyr sydd ar gyfnod mamolaeth sydd mewn perygl o gael eu diswyddo cael cynnig rôl amgen addas cyn gweithwyr eraill. Golyga newidiadau’r dyfodol bod yr amddiffyniad hwn yn cael ei ymestyn o’r dyddiad y mae’r gweithiwr yn rhoi gwybod i’w chydweithwyr ei bod hi’n feichiog. Does dim gwahaniaeth p’un ai bod y gweithiwr yn rhoi gwybod ar lafar neu ar bapur. Bydd yr amddiffyniad hwn yn para am gyfnod o chwe mis ychwanegol unwaith bydd y gweithiwr yn dychwelyd i’r gwaith. Bydd yr amddiffyniad estynedig hefyd ar gael i weithwyr sydd ar absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir. Does dim dyddiad wedi’i gadarnhau o ran pryd fydd y newidiadau hyn yn dod i rym.
Cyngor Pellach
Os hoffech drafod Cyfraith Gyflogaeth, cysylltwch â’n cyfreithwraig Cyfraith Gyflogaeth Sasha Brine dros e-bost ar sasha@agiadvisor.co.uk neu dros y ffôn ar 07475069698.