Ailstrwythuro eich Busnes yn dilyn Covid-19
Er bod y cynllun ffyrlo wedi’i ymestyn tan fis Medi 2021, bydd angen i gyflogwyr ystyried mesurau arbed costau er mwyn paratoi at ddiwedd y cynllun. Mae sawl opsiwn amrywiol ar gael i gyflogwyr:
Cadw gweithwyr ar ffyrlo ar ôl i gynllun y Llywodraeth ddod i ben
Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi creu elfen o ddiswyddo cytunedig hyd yn oed heb i ddarpariaeth ddiswyddo gytundebol fodoli. Fel canlyniad, cyn belled â bo gweithwyr yn parhau i gytuno i fod ar ffyrlo, byddai’n bosib ymestyn y cyfnod y maent ar ffyrlo. Gall hwn leihau tâl o dan y grant ffyrlo presennol, neu hyd yn oed weithredu ffyrlo heb dâl. O bosib bydd gweithwyr yn barod i gytuno i hyn fel opsiwn arall yn lle diswyddiad. Fodd bynnag, ni fydd modd hawlio cyflog neu unrhyw gostau cyflog arall yn ôl o’r cynllun ffyrlo ar ôl iddo ddod i ben.
Newid telerau ac amodau
O bosib byddwch yn newid telerau ac amodau’r gweithiwr gyda chydsyniad a chaffael caniatâd ysgrifenedig. Fel arall, os oes yna hawl cytundebol i orfodi gweithio tymor byr, gellir defnyddio hwn (yn ddarostyngedig i ymgynghoriad a rhybudd).
Lleihau tâl i weithwyr ond gwneud hi’n ofynnol iddynt weithio’r un oriau
Gall gyflogwyr fod mewn sefyllfa lle bydd disgwyl i’w gweithwyr weithio’r un oriau am gyflog llai. Mae hwn yn bosibilrwydd, ond bydd hi’n anodd perswadio gweithwyr i gytuno i hyn. Bydd angen sicrhau eich bod chi’n esbonio’r rhesymau a’r gost busnes mewn manylder er mwyn lleihau anniddigrwydd gan y gweithwyr. Bydd angen i chi hefyd sicrhau o ran eich gweithwyr cyflog isel, os yw eu cyflog yn cael ei leihau ond eu horiau gwaith yn aros yr un peth, eich bod yn parhau i gydlynu gyda’r ddeddfwriaeth isafswm cyflog.
Dileu Swydd
O bosib bydd angen i chi ystyried y broses dileu swydd o ganlyniad i’r hinsawdd economaidd. Mae dileu swydd yn rheswm weddol deg dros ddiswyddo, ond rhaid iddo hefyd fod yn rhesymol o ran yr amgylchiadau dros ddileu’r swydd. Mae yna ddadl ei fod yn annheg dileu swydd gweithiwr pan fo’r cynllun ffyrlo ar gael fel opsiwn arall. Fodd bynnag, os yw’r gweithiwr yn cytuno i’r lleihad cyflog i lefel y grant ffyrlo, bydd angen i’r cyflogwr ysgwyddo costau’r gweithiwr gan gynnwys Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol, cyfraniadau pensiwn, ychwanegiadau tâl gwyliau ac unrhyw fuddion arall.
Cyngor pellach
Os hoffech drafod ailstrwythuro eich busnes yn dilyn Covid-19 neu drafod unrhyw un o’r opsiynau uchod, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Gyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.