Statws IR35
Mae IR35 wedi’i gynllunio i atal gweithwyr rhag osgoi treth wrth weithredu fel contractwyr. Os yw contractwr yn gweithredu trwy gwmni cyfyngedig ei hun, ond fel arall yn cael ei drin yr un fath â gweithwyr ei gleient, caiff ei ystyried ‘tu fewn i’r IR35’ a bydd angen iddo wneud taliadau treth ychwanegol.
O fis Ebrill 2021, bydd cyflogwyr y sector breifat yn cael eu dal yn gyfrifol am bennu p’un ai bod yr IR35 yn berthnasol i unrhyw un o’r contractwyr maent yn cyflogi – a bydd gofyn iddynt drin y contractwr fel gweithiwr am bwrpas treth.
Ydych chi y tu fewn neu thu allan i’r IR35?
Cyflwynwyd IR35 oherwydd y ffordd yr oedd gweithwyr yn cael eu trin yn wahanol i gontractwyr. Gyda gweithiwr, rhaid i’r cyflogwr ddarparu pensiwn gweithle, tâl gwyliau, tâl salwch, buddion arall (o bosib) a thalu cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol. Mae gan gontractwr, ar y llaw arall, ffi waelodol a bach iawn o hawliau cyflogaeth.
Mae’r mwyafrif o gontractwyr yn gweithredu fel cwmnïoedd cyfyngedig, fodd bynnag, nid yw gweithredu fel cwmni yn gwahardd y contractwr rhag bod yn weithiwr yn gyfan gwbl ar wahân i enw, a dyma lle ddaw IR35 yn berthnasol.
Problemau’r IR35?
Mae’r IR35 yn creu problem ddwbl, sy’n effeithio contractwyr a’r busnesau sy’n eu defnyddio. Os oes ofn ar fusnes y gall unrhyw gontractwr y maen nhw’n cyflogi gael eu hystyried yn weithiwr gan HMRC, o bosib ni fyddant yn risgio eu cyflogi o gwbl. Yn yr achos hwn, bydd y busnes a’r contractwr yn colli allan.
Sut i wirio eich statws gyflogaeth IR35?
Mae HMRC yn cynnig offeryn ar-lein, sef Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth (CEST) y gallwch ddefnyddio fel canllaw cyffredinol i’ch statws gyflogaeth.
https://www.gov.uk/guidance/check-employment-status-for-tax.cy
Prawf o Cudfuddiant Rhwymedigaeth
Un o brif ddiffygion yr offeryn CEST yw nad yw’n ystyried Cydfuddiant Rhwymedigaeth (CR). Cydfuddiant Rhwymedigaeth yw un o nodweddion diffiniol cyflogaeth, gan fod gan y gweithiwr oblygiadau penodol tuag at y cyflogwr, a’r cyflogwr i’r gweithiwr. Nid yw llawer o’r goblygiadau hyn yn berthnasol i gontractwyr (e.e. gall y contractwr ddewis ble a sut i ddarparu’r gwaith, a gall ddirprwyo’r gwaith i rywun arall os fydd angen; tra nad yw’n orfodol ar gleient i gynnig mwy o waith i’r contractwr). Mae CR wedi bod yn ffactor pendant mewn nifer o dribiwnlysoedd IR35 diweddar , sy’n rheswm arall pam fod yr offeryn CEST ond yn ganllaw bras ar hyn o bryd.
Gofal gyda’r IR35
O fis Ebrill 2021, cyfrifoldeb y cyflogwyr fydd hi i bennu p’un ai bod unigolyn yn weithiwr neu’n gontractwr am bwrpas treth. Rhaid i chi gyflwyno Datganiad Penderfyniad Statws i’ch contractwyr, sy’n gwneud eu statws IR35 yn glir (tu fewn a thu allan i’r rheolau) ac esbonio pam. Cyn belled â’ch bod yn cefnogi eich penderfyniad gyda thystiolaeth ddigonol a chyflwyno’r dogfennau treth berthnasol, dylech osgoi unrhyw gosbau.
I grynhoi, dylai gweithwyr:
- Adolygu pob perthynas gyda chontractwyr ac/neu ymgynghorwyr
- Sicrhau bod eich telerau ymgysylltu yn glir a chywir
- Darparu Datganiad Penderfyniad Statws i’r contractwyr
- Ystyried newid rhai contractwyr i weithwyr os ydynt yn cwympo o fewn yr IR35 ac os yw hyn yn ddatrysiad mwy ymarferol i’r ddau ohonoch
Cyngor Pellach
Os hoffech drafod yr IR35 a’ch busnes, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyfraith Gyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.