Chwilio am swydd newydd? – Cynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Wyt ti eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol deinamig, sydd wedi’i chydnabod am ymagwedd sy’n torri tir newydd? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sy’n cynghori ffermwyr, tir berchnogion a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn ehangu i Ogledd Cymru ac yn edrych i recriwtio yn ein swyddfa newydd yn y Bala.
Cynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Croesawu pob ymwelydd i’r swyddfa,
- Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol,
- Delio gydag ymholiadau cleientiaid drwy e-bost, ffacs a llythyr,
- Ateb galwadau ffôn,
- Rheoli dyddiaduron ac apwyntiadau,
- Copïo, sganio a ffacsio,
- Paratoi ffeiliau llys,
- Ffeilio a gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys post mewn ac allan o’r swyddfa, agor, rheoli a chau ffeiliau cleientiaid,
- Delio gyda thaliadau wrth gleientiaid, a
- Theipio nodiadau ac arddywediadau digidol.
Nodweddion allweddol:
- Chwaraewr Tîm,
- Sgiliau cyfathrebu gwych,
- Profiadol yn defnyddio Microsoft Office,
- Sgiliau allweddell hyfedr,
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac amldasgio,
- Cyfrinachgar,
- Proffesiynol,
- Huawdl gyda sillafu a gramadeg da,
- Buasai medru siarad Cymraeg yn fanteisiol.
Bydd y swydd hon wedi’i leoli yn ein swyddfa yn y Bala (LL23 7AD) ac yn 37.5 awr yr wythnos.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Awel Mai Hughes ar 01938 536409.
Cyflog NMW gydag ystyriaeth yn cael ei roi i brofiad.
Ymgeisiwch os gwelwch yn dda mewn ysgrifen drwy ddarparu CV a llythyr eglurhaol i zoej@agriadvisor.co.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 13eg o Fai 2022