Dyrchafiadau i Bartner yn Agri Advisor
Mae Agri Advisor wedi cyhoeddi dau ddyrchafiad mewnol gyda Chyfreithwyr profiadol Arwyn Reed a Llio Phillips yn cael eu dyrchafu i fod yn Bartneriaid yn y cwmni.
Wedi’i sefydlu dros ddegawd yn ôl, mae Agri Advisor wedi mwynhau twf ac ehangiad parhaus dros y blynyddoedd ac ar hyn o bryd mae gan y cwmni bum swyddfa sy’n gwasanaethu cleientiaid ledled Cymru a siroedd y gororau gyda chynlluniau i ehangu ymhellach eleni. Derbyniwyd bathodyn pwysig Cynnig Cymraeg wrth Gomisiynydd y Gymraeg y llynedd am ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i’w gleientiaid.
Dywedodd y Partner Rheoli a’r sylfaenydd Dr Nerys Llewelyn Jones “Rwy’n falch iawn o groesawu Arwyn a Llio i’r Bwrdd Rheoli. Maent wedi profi eu bod yn asedau amhrisiadwy i’n cwmni ers i’r ddau ymuno â ni yn 2020 ac maent yn brofiadol iawn yn eu hadrannau. Mae ein cwmni yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu a hyrwyddo talent o’r tu mewn ac rydym yn falch iawn o lwyddiannau Arwyn a Llio hyd yma.”
Mae gan Arwyn a Llio wybodaeth a phrofiad amaethyddol arbenigol sy’n cwmpasu amrywiaeth o feysydd cyfreithiol. Codwyd Arwyn ar fferm yng Nghwm Gwaun yn Sir Benfro. Wedi’i leoli yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerdydd, mae Arwyn yn bennaeth ar dîm Eiddo Preswyl y cwmni ac mae hefyd yn delio â gwaith Ewyllysiau a Phrofiant a Theulu. Llio yw Pennaeth Datrys Anghydfod y cwmni ac mae ganddi ddegawdau o brofiad mewn Ymgyfreitha Sifil, Cyfraith Teulu a Datrys Anghydfodau sy’n cynnwys anghydfodau tir ac eiddo, anghydfodau ynghylch contractau a dyledion. Mae hi wedi’i lleoli’n bennaf yn swyddfa Castell Newydd Emlyn y cwmni ac mae’n byw ar y fferm deuluol sy’n edrych dros aber yr afon Teifi.
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod Agri Advisor wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Cwmni Cyfraith y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2022. Mae’r gwobrau hyn yn dathlu rhagoriaeth mewn timau sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru. Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener 20fed o Fai.