Rheoliadau Newydd ar gyfer Tenantiaethau Amaethyddol yng Nghymru

  • Posted

Gwnaeth Deddf Amaethyddiaeth 2020 ddarpariaeth ar gyfer gwneud diwygiadau i’r gyfraith sy’n ymwneud â’r ddau fath o denantiaethau amaethyddol gyda’r diwygiadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i Reoliadau gael eu gweithredu gan y Senedd ynghylch sut y byddent yn gweithio yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau hyn bellach wedi’u gosod a fydd yr erthygl yma yn crynhoi’r prif newidiadau a wnânt.

Cydsyniad y landlord ac Amrywiad Telerau

Mae’r Rheoliadau’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r ddau fath o denantiaethau amaethyddol sef tenantiaethau Deddf Daliadau Amaethyddol a Tenantiaethau Busnes Fferm, i denant allu cyfeirio at gyflafareddu (neu benderfyniad trydydd parti drwy gytundeb) mewn perthynas â chais am

  1. cydsyniad landlord i fater sydd angen cydsyniad o’r fath o dan delerau’r denantiaeth, neu
  2. amrywiad o delerau’r denantiaeth

os yw’n angenrheidiol er mwyn i’r tenant allu cael gafael ar gymorth ariannol (a fyddai’n cynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy) neu gydymffurfio â dyletswydd statudol sy’n berthnasol i’r tenant, lle na all y landlord a’r tenant gytuno ar y caniatâd neu’r amrywiad hwnnw. Mae hyn yn golygu, os yw telerau cytundeb tenantiaeth yn atal tenant rhag cael mynediad at gyllid y llywodraeth (o fewn y diffiniad a ddarperir yn y Rheoliadau) neu na all gael caniatâd gan Landlord i wneud gwelliannau i’r daliad sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â deddfwriaeth, bydd yn gallu gwneud y cais hwn i’r landlord i’w alluogi i gael gafael ar y cymorth ariannol hwn neu wneud y newidiadau hynny.

Mae yna weithdrefn lem y mae’n rhaid ei dilyn wrth wneud ceisiadau ac mae’n bwysig i bob parti gael cyngor mewn perthynas â’r broses gan ei bod yn ofynnol gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig, sydd yn rhoi rhesymeg llawn a hefyd rhaid i ymateb gan y Landlord, hyd yn oed yn achos gwrthodiad, ddarparu rhesymau manwl dros y penderfyniad hwnnw.

 

Ceisiadau am olyniaeth o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986

O’r 1af o Fedi 2024, mae’r meini prawf cymhwysedd ac addasrwydd ar gyfer olyniaeth wedi newid. O ran cymhwyster, mae’r prawf uned fasnachol wedi dod i ben ac felly dim ond perthynas agos fydd angen i’r tenant sy’n olynnu ei gael, i fodloni’r prif ffynhonnell o brawf bywoliaeth, i fod yn gymwys. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw dir arall sy’n eiddo i’r tenant sy’n olynnu, neu’n ei rentu, yn cael ei ystyried gan y Tribiwnlys mwyach wrth benderfynu ar geisiadau am olyniaeth.

O ran addasrwydd, cyflwynir prawf diwygiedig a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i nifer o feini prawf perthnasol gael eu hystyried gan y Tribiwnlys sy’n cynnwys:

(a) gallu tebygol y person i ffermio’r daliad yn fasnachol, gyda neu heb dir arall, gan ystyried yr angen am safonau uchel o gynhyrchu effeithlon a gofalu am yr amgylchedd mewn perthynas â rheoli’r daliad hwnnw;

(b) profiad, hyfforddiant a sgiliau’r person mewn amaethyddiaeth a rheoli busnes;

(c) statws ariannol y person a’i gymeriad;

(d) cymeriad, sefyllfa a chyflwr y daliad;

(e) termau’r denantiaeth”

Yn ogystal ag ystyried yr holl faterion perthnasol, mae’n rhaid i’r Tribiwnlys hefyd fod yn fodlon, pe bai’r tenant olynol yn gwneud cais mewn cystadleuaeth agored ar gyfer y denantiaeth, y gellid disgwyl yn rhesymol i landlord darbodus a bodlon fod wedi bod yn barod i roi’r denantiaeth i’r tenant hwnnw.

Bydd yn bwysig i unrhyw ymgeiswyr am olyniaeth ystyried y meini prawf diweddaraf hyn ymlaen llaw a pha dystiolaeth y byddant yn gallu ei chyflwyno i gefnogi pob elfen.

Bydd yn rhaid i landlordiaid hefyd ystyried sut y maent yn asesu cymhwysedd ac addasrwydd ymgeiswyr olyniaeth yng ngoleuni’r newidiadau hyn.

Am gyngor ac arweiniad ynghylch effaith y newidiadau hyn ar denantiaeth eich Deddf Daliadau Amaethyddol cysylltwch ag Agri Advisor ar 01558 650381.