Agri Advisor a Brunton & Co yn uno
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Agri Advisor a Brunton & Co yn uno.
Mae’r ddau gwmni, ill dau wedi hen sefydlu o fewn cymunedau gwledig, yn cryfhau eu cyrhaeddiad ac yn dod yn gwmni blaenllaw ledled Cymru.
Sefydlwyd Brunton & Co rhyw 40 mlynedd yn ôl ac mae’r cwmni’n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth personol pwrpasol i gleientiaid yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru gyda swyddfeydd yn Aberystwyth a Machynlleth. Mae gan Peter Brunton a’i fab James Brunton ynghyd ag Aneira Evans brofiad a gwybodaeth helaeth a fydd yn werthfawr i’r tîm estynedig.
Ar hyn o bryd mae gan Agri Advisor swyddfeydd ym Mhumsaint, Y Trallwng, Y Groesfaen, Kington, Castellnewydd Emlyn, Y Bala a Gaerwen a bydd ychwanegu’r swyddfeydd yn Aberystwyth a Machynlleth yn cryfhau presenoldeb y cwmni o fewn Canolbarth Cymru.