Cytundebau Hyfforddiant

  • Posted

Croesawir ceisiadau ar gyfer ein rhaglen cyfreithiwr dan hyfforddiant. Rydym yn chwilio am hyfforddeion craff a brwdfrydig i ymuno â’n tîm yn 2025.

Rydym ni yn Agri Advisor Legal LLP yn dîm o arbenigwyr mewn cyfraith amaethyddol a gwledig. Oherwydd y ffordd yr ydym yn strwythuro ein cytundebau hyfforddiant, byddwch yn eistedd mewn pedair sedd am chwe mis yn ystod y cytundeb hyfforddiant dwy flynedd gan weithio mewn amryw o feysydd cyfreithiol. Mae’r rhain yn cynnwys Eiddo a Chynllunio, Cleient Preifat a Datrys Anghydfodau.

Byddwn hefyd yn ystyried ymgymryd â’r cytundeb hyfforddiant ar sail rhan amser i gydredeg gyda hyfforddiant.

Byddwch yn derbyn cyfrifoldeb o gyfnod cynnar, i gael profiad go iawn ac ymarferol gyda goruchwyliaeth ac arweiniad gan gyfreithwyr profiadol drwy gydol eich cyfnod o hyfforddiant a thu hwnt.

Rydym yn gwahodd ceisiadau wrth ymgeiswyr o bob cefndir, ond rydym yn gofyn eich bo chi:

  • wedi cwblhau eich LPC, neu’n bwriadu ymgymryd â’r SQE o fewn y 2 flynedd nesaf
  • yn meddu ar gofnod academaidd cryf gyda lleiafswm gradd o 2:1
  • yn fasnachol ymwybodol ac yn bragmatig
  • yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol a meddu ar sgiliau cyfathrebu a

phersonol da

  • â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn cyfraith amaethyddol neu wledig

Bydd angen i chi naill ai fod wedi pasio’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), neu’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) neu’n dymuno ymgymryd â’r LPC neu’r SQE yn ystod eich cyfnod hyfforddi. Er mwyn ymgymryd â’r LPC, bydd rhaid cyrraedd rhai gofynion trosiannol a fydd yn golygu eich bod wedi cwblhau cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig.  Os nad ydych yn cyrraedd y rhain, bydd angen i chi gymhwyso o dan y llwybr SQE.

Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd tîm cyfeillgar a chefnogol lle bydd eich datblygiad proffesiynol yn cael ei gynorthwyo a’i werthfawrogi.

I wneud cais, anfonwch eich llythyr eglurhaol a’ch CV at hr@agriadvisor.co.uk . Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 1af o Dachwedd 2024.