Chwilio am Swydd Newydd?
Cynorthwy-ydd Cydymffurfio:
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys:
- Cydlynu ymatebion Boddhad Cleientiaid gan gynnwys adolygiad blynyddol o gynnwys a phroses.
- Brysbennu Cwynion gan gwsmeriaid.
- Cyfathrebu â’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr mewn perthynas â materion cydymffurfio.
- Sicrhau bod diweddariadau a gwelliannau’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn cael eu cyfleu i bob aelod o staff yn y busnes a’u gweithredu.
- Paratoi dogfennau ar gyfer yswirwyr yn flynyddol a chysylltu ag Yswirwyr y Cwmni ar gyfnodau yn ystod y flwyddyn.
- Brysbennu hysbysiadau gwyngalchu arian.
- Delio â rhyddhau ffeiliau i gleientiaid a phartïon eraill.
- Cydlynu gwiriadau Gwrth-wyngalchu Arian ar gyfer bob cleient a mater newydd.
- Cyfrifoldeb am reoli credyd ar gyfer y busnes.
- Cau ffeiliau a’u tynnu oddi ar y system.
- Agor Ffeiliau ac integreiddio cleientiaid newydd a sicrhau bod y gweithdrefnau yn cael eu dilyn.
- Monitro Gweithdrefnau Agor Ffeil – gan sicrhau cwblhau Gwiriadau Gwrth-Gwyngalchu Arian, cael arian ar gyfrif, sicrhau bod Telerau ac Amodau yn cael eu danfon allan a’u dychwelyd ac ati – gan dynnu sylw enillwyr ffioedd at faterion a phryderon a all godi.
- Paratoi a chyflwyno adroddiad misol i’r Bwrdd Rheoli.
- Monitro gweithredoedd Adolygu Ffeiliau.
- Cydlynu Adolygiadau Ffeil ar hap gan Benaethiaid Timau.
- Cefnogi’r Pennaeth Gwasanaethau Busnes i adolygu a diweddaru Cynllun Parhad y Busnes.
- Cefnogi’r Pennaeth Gwasanaethau Busnes i adolygu a diweddaru Adolygiadau/Mapiau a Chofrestrau Risg.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
- Sicrhau recordiad canolog cywir o Ymgymeriadau
- Cydlynu adolygiad gwybodaeth a diweddariadau Gofal Cleientiaid.
- Cydlynu Adolygiad o Weithdrefnau Agor Ffeiliau ac Integreiddio.
- Sicrhau bod y Wefan yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddio.
- Adolygu Cytundebau Diogelwch Data.
- Sicrhau bod yr adrannau cydymffurfio yn y llawlyfr swyddfa yn cael eu diweddaru a’u cyfleu ar draws y busnes.
Rhinweddau allweddol:
- Yn talu sylw i fanylion.
- Yn drefnus iawn.
- Yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith a delio gyda sawl tasg ar yr un pryd.
- Yn medru ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Yn broffesiynol.
Yn ogystal â’ch dyletswyddau sylfaenol, efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol neu wahanol sydd, o bryd i’w gilydd, yn cael eu hystyried yn angenrheidiol, ac yn gyson â’ch rôl yn y cwmni ac yn cefnogi aelodau eraill o’r tîm gwasanaethau busnes.
Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais.
Bydd hyfforddiant rhagorol yn y gwaith yn cael ei ddarparu.
Mae hon yn swydd barhaol llawn amser, ond byddem yn ystyried ceisiadau rhannu swydd hefyd.
Cyflog: Cyflog Byw Cenedlaethol
Ymgeisiwch os gwelwch yn dda mewn ysgrifen drwy ddarparu CV a’ch llythyr eglurhaol i hr@agriadvisor.co.uk .
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 29ain Tachwedd 2024
Am sgwrs gyfrinachol am y rôl, ffoniwch Lowri Jones neu Sharon Morgan ar 01558 650381