Profiad Gwaith Rithiol 2025

  • Posted

Credwn fod profiad gwaith cyfreithiol yn hynod bwysig ar gyfer datblygiad personol graddedigion y gyfraith, ac rydym yn lansio ein Profiad Gwaith Rhithiol ar gyfer 2025 i sicrhau bod cyfleoedd o’r fath yn dal i fod ar gael ac yn hygyrch i ystod amrywiol o bobl ifanc.

I fod yn gymwys i wneud cais am y rhaglen hon, rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • Myfyriwr yn y Gyfraith yn y drydedd flwyddyn, myfyriwr PhD neu fyfyriwr Radd Meistr yn y Gyfraith
  • Myfyriwr GDL
  • Wedi ymgymryd â LPC
  • Yn ymgymryd â SQE
  • Yn Paragyfreithiwr
  • Yn Brentis Cyfreithiol

Gallwn gynnig 8 lle i fyfyrwyr sy’n ystyried gyrfa yn y gyfraith, neu a hoffai ennill gwybodaeth wrth ymgymryd â gwaith cyfreithiol ‘go iawn’ a deall y prosesau dan sylw. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael Mentor yn y cwmni a gofynnir iddynt ymgymryd â thasgau cyfreithiol sy’n cyd-fynd â’r mathau o waith a wnawn yma yn Agri Advisor. Rhoddir adborth ar y gwaith a gwblhawyd, a byddant yn cael budd mentora un-i-un gan aelodau talentog o’n tîm.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif presenoldeb ar ddiwedd y profiad gwaith. I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol yn nodi pam yr hoffech ymgymryd â’r profiad gwaith a CV i hr@agriadvisor.co.uk Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31ain o Ragfyr a bydd y profiad gwaith yn cael ei gynnal yn ystod misoedd Mehefin/Gorffennaf o gysur eich cartref eich hun!