Chwilio am Swydd Newydd? – Cyfreithiwr Cleient Preifat

  • Posted

Mae Agri Advisor Legal LLP yn gwmni gwledig arbenigol o gyfreithwyr a chynghorwyr.   Mae Agri Advisor yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyfreithiol a chynghorol sy’n ymroddedig i ddarparu cyngor arbenigol i ffermwyr, tirfeddianwyr a phobl wledig.  Fel arbenigwyr cyfraith amaethyddol, rydym yn cynnig cyngor penodol i ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n uniongyrchol berthnasol i’r materion sy’n wynebu eu busnesau.

Sefydlwyd Agri Advisor ddegawd yn ôl ac mae gennym gleientiaid ledled Cymru a Lloegr gyda’r brif swyddfa ym Mhumsaint, Sir Gaerfyrddin a swyddfeydd eraill yn y Trallwng; Y Groesfaen, Caerdydd; Kington, Swydd Henffordd; Castell Newydd Emlyn; Y Bala; Aberystwyth a Machynlleth.  Mae ein cleientiaid yn amrywiol ac yn adlewyrchu’r ystod o wasanaethau rydym yn eu cynnig i bobl wledig.

Rydym yn edrych i recriwtio Cyfreithiwr PQE 3+ (neu gyfatebol) sy’n arbenigo mewn gwaith Cleient Preifat.

Croesewir ceisiadau rhan-amser neu amser llawn.

Bydd y prif feysydd gwaith yn cynnwys:

  • Paratoi Ewyllysiau ac Ymddiriedolaethau
  • Gweinyddu Ystadau ac Ymddiriedolaethau
  • Profiant
  • Pwerau Atwrnai
  • Cynllunio olyniaeth gan gynnwys cyngor ar drethi cyfalaf

Mae’r rôl yn gofyn am sylw i fanylion a’r gallu i feithrin perthynas gref â’r cleientiaid. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos y canlynol:

  • Gwybodaeth dechnegol profedig
  • Sgiliau gofal cleientiaid ardderchog
  • Ymwybyddiaeth a ffocws masnachol
  • Sgiliau dadansoddol a rheoli prosiectau cryf
  • Y gallu i reoli llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser tynn
  • Awydd i ddysgu a datblygu sgiliau cyfreithiol a busnes

Mae cefndir mewn amaethyddiaeth yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Gallai’r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi’i leoli yn unrhyw un o’n swyddfeydd, fodd bynnag, yn enwedig ein swyddfa yn Kington. Mae gennym bolisi gweithio hyblyg ac rydym yn gweithio o bell le bo hynny’n bosibl gan ddefnyddio ein swyddfeydd fel Hybiau.

Cyflog – cystadleuol; gydag ystyriaeth yn cael ei roi i brofiad.Cyflog – cystadleuol; gydag ystyriaeth yn cael ei roi i brofiad.

Dylid anfon ceisiadau drwy CV gyda llythyr eglurhaol drwy e-bost at hr@agriadvisor.co.uk.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6ed o Ionawr 2025

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Awel Mai Hughes ar 01678 444005