Chwilio am Swydd Newydd? – Cynorthwy-ydd Swyddfa

  • Posted

Ydych chi eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol deinamig sydd wedi’i gydnabod am ei arloesedd wrth weithredu? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sy’n cynghori ffermwyr, tirfeddianwyr a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn awyddus i recriwtio’r canlynol i gael eu lleoli yn unrhyw un o’n swyddfeydd, ond yn arbennig ym Mhumsaint, Y Trallwng, Y Bala, Kington neu Gastell Newydd Emlyn:

Cynorthwy-ydd Swyddfa

Bydd eich dyletswyddau’n cynnwys:

  • Croesawu pob ymwelydd i’r swyddfa;
  • Teipio o nodiadau ac arddweud digidol;
  • Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol;
  • Delio ag ymholiadau gan gleientiaid drwy e-bost, ffacs a llythyr;
  • Ateb galwadau ffôn;
  • Rheoli dyddiadur a chreu apwyntiadau;
  • Copïo, sganio a ffacsio;
  • Paratoi ffeiliau llys;
  • Gwaith ffeilio a gweinyddu cyffredinol gan gynnwys gohebiaeth sy’n dod i mewn ac allan; agor,rheoli a chau ffeiliau cleientiaid;
  • Delio â thaliadau gan gwsmeriaid.
  • Darparu cefnogaeth i’ch enillwyr ffioedd dynodedig mewn perthynas â rheoli materion

Rhinweddau allweddol:

  • Chwaraewr tîm,
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith,
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol,
  • Profiad yn Microsoft Office,
  • Sgiliau bysellfwrdd ardderchog,
  • Y gallu i gadw pethau’n gyfrinachol
  • Proffesiynol a
  • Gyda’r gallu i fynegi’ch hun gyda gramadeg a sillafu da.

Gan fod nifer o’n cleientiaid yn siarad Cymraeg, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.

Yn ogystal â’ch prif ddyletswyddau efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol neu wahanol yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol o bryd i’w gilydd ac sy’n gyson â’ch rôl yn y cwmni.

Llawn amser (dydd Llun i ddydd Gwener 9 – 5) ond gyda’r potensial i rannu swydd.

Cyflog: Cyflog Byw Cenedlaethol

Lleoliad: I gael eich lleoli yn unrhyw un o’n swyddfeydd, fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn rhywun sydd eisiau gweithio’n ein swyddfa yn Kington, Y Trallwng, Y Bala, Pumsaint neu Gastellnewydd Emlyn.

Gwnewch gais ysgrifenedig drwy ddarparu CV a llythyr eglurhaol at hr@agriadvisor.co.uk.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6ed o Ionawr 2025

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Lowri Jones ar 01558 650381