Mae ein tîm yn Agri Advisor yn arbenigwyr mewn cyfraith amaethyddol a gwledig. Mae gennym ni gyd gysylltiadau cryf â’r diwydiant amaethyddol ac yn byw yn yr ardal wledig yr ydym ni’n gwasanaethu. Mae’r nod o ddarparu gwasanaeth gwledig ar gyfer pobl wledig yn allweddol i’r busnes.
Yn y tîm mae gennym ni ystod eang o brofiad arbenigol mewn ystod o faterion cyfreithiol a chynghorol.
Mae ein cleientiaid yn amrywiol a gwahanol gan adlewyrchu’r ystod o wasanaethau yr ydym ni’n cynnig i bobl wledig.
Rydym yn cynnig cyngor arbenigol i:
Gleientiaid Preifat
- Ffermwyr
- Tirfeddianwyr
- Gweithwyr Fferm
- Ymddiriedolwyr
- Tenantiaid
- Landlordiaid
Cleientiaid Masnachol
- Cyfrifwyr
- Asiantau Tir
- Asiantau Eiddo
- Ymgynghorwyr Busnes Fferm
- Banciau
- Busnes Twristiaeth Wledig
- Lladd-dai
- Marchnadoedd
Elusennau
Mae nifer o elusennau yn gweithio i gynorthwyo’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad er mwyn darparu cefnogaeth a chyngor ar gyfer pobl wledig. Rydym yn cynnig cyfraddau arbennig i unrhyw elusen sy’n ein cyfarwyddo.
Os na allwn ddelio gyda’ch ymholiad, byddwn yn adnabod yr arbenigwr a fydd, a byddwn yn eich cyfeirio at y person priodol hwnnw. Gan fod ein holl gleientiaid wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig, rydym wedi ymgolli yn y gyfraith amaethyddol ac yn delio gyda’r maes yn ddyddiol, felly ffoniwch i drafod eich gofynion ar 01558 650 381, neu trefnwch gyfarfod gyda ni mewn swyddfa gyfleus.