Llys y Llan, Pumsaint
Mae Llys y Llan yn sgubor draddodiadol sydd wedi cael ei drawsnewid i swyddfeydd Agri Advisor, wedi ei leoli ger yr A482 tuag at bentref Ffarmers. Roedd yn wreiddiol yn rhan o’r fferm yn Henllan ond erbyn hyn mae wedi ei droi i swyddfeydd a chyfleusterau cynadledda.
Os ydych yn edrych am leoliad gwledig, unigryw a heddychlon ar gyfer eich cyfarfod busnes neu ddigwyddiad cymdeithasol, yna mae Llys y Llan yn berffaith i chi. Mae amryw o ystafelloedd ar gael i logi am gwpwl o oriau neu yn ddyddiol sy’n gallu ymgymhwyso 4 i 50 o bobl.
Mae digonedd o le i barcio ar y safle, ac rydym llai na filltir o’r brif heol. Mae’r ystafelloedd cyfarfod yn cynnig mynediad anabl. Mae hefyd yna ardal patio gyda golygfeydd prydferth o gefn gwlad a chwm Twrch. Rydym yn gallu darparu amryw o fwyd ac opsiynau arlwyo fel yr hoffech.
Mae ein hystafelloedd cyfarfod wedi ei enwi ar ôl eu defnydd gwreiddiol cyn iddynt gael eu troi mewn i swyddfeydd.
Mae gwybodaeth pellach wedi’i rhestru isod:
Cartws
Cartws yw’r ystafell gyfarfod leiaf yn Llys y Llan, sydd yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd o hyd at 4 o bobl. Mae ar gael i’w logi ar raddfa fesul awr, neu yn ddyddiol.
Beudy
Defnyddir Beudy, sef Beudy Henllan gynt, fel ystafell hyfforddi a chynadledda o fewn Llys y Llan. Mae’r ystafell yn cynnig cyfleusterau arbennig ar gyfer cynnal cyfarfodydd, rhoi cyflwyniadau neu ar gyfer ddigwyddiad cymdeithasol. Mae Wifi ar gael yn yr ystafell, yn ogystal â wal wen “dry wipe” ar gyfer cyflwyniadau. Mae seddu ar gael i hyd at 50 o bobl mewn steil cynadledda.
Drws nesaf i’r Beudy mae cegin â’r holl offer sydd angen, sy’n gallu cael ei logi allan gydag amryw o opsiynau arlwyo.
Ar gyfer prisio, cysylltwch â’n swyddfa.