Cyfraith Cyflogaeth a Chymorth Adnoddau Dynol
Bob blwyddyn mae nifer helaeth o fusnesau yn profi problem gyfreithiol sylweddol yn ymwneud gydag aelod o staff neu’r busnes. Nid oes llawer o fusnesau yn gallu fforddio cael arbenigwr i’w helpu i ddatrys y broblem yn gyflym ac mewn modd effeithiol er mwyn sicrhau nad yw’r busnes yn cael ei darfu. Dyma ble gall Agri Advisor eich helpu.
Mae Agri Advisor yn gwmni lleol y gallwch roi ffydd ynddynt er mwyn sicrhau eich enw da, eich staff ac eich busnes. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau cyfreithiol a chynghorol er mwyn rhoi cyngor penodol ac arbenigol i ffermwyr, cwmnïau bach a mawr a pherchnogion tir. Gallwch roi ffydd yn Agri Advisor i wneud y canlynol:
- Datrys sefyllfaoedd cymhleth
- Atal anghydfodau
- Arbed amser ac arian
- Atal niwed i’ch enw da a’ch perthnasoedd yn y gweithle
- Eich helpu i gadw staff da
- Cymorth ar hyd y broses gan rhywun sydd gyda blynyddoedd o brofiad
- Cyngor lleol gan gyfreithwyr
Byddwn yn gallu eich helpu gyda’r canlynol:
- Cyfleodd cyfartal
- Rheoli perfformiad
- Disgyblaeth a Gofedigaeth
- Rheoli absenoldeb
- Ymddiswyddiadaethau
- Ail strwythuro ac Ail drefnu
- Pensiynau’r gweithle
- Cytundebau
- Meddalwedd AD
- Cymorth Iechyd a Diogelwch
- Hyfforddiant Mewnol wedi ei deilwrio
- Cymorth ymgynghoriaeth ar safle
- Cymorth AD/ Masnachol Cyfreithiol
Cyflogi gweithwyr fferm
Mae ein tîm cyflogaeth yn delio ag amrywiaeth eang o faterion o safbwynt cyflogwr a gweithiwr. Rydym yn gallu rhoi cyngor ar gontractau gweithwyr fferm, cytundebau setlo, busnesau ffermio sy’n cael ei ddirwyn i ben a materion eraill sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.