Yma yn Agri Advisor, nid ydym yn gweld Ewyllysiau fel rhywbeth ar gyfer yr henoed yn unig, ac yn aml, mae eu pwysigrwydd yn cael eu tanddatgan. Datgelwyd gan ymchwiliadau diweddar nad yw tua dwy traean o oedolion wedi creu Ewyllys ac, yn bryderus, mae tua traean ohonom yn marw heb greu Ewyllys o gwbwl, h.y. yn ddiewyllys.
Mae marw’n ddiewyllys yn golygu eich bod yn colli rheolaeth dros bwy sy’n etifeddu eich asedau ar ôl eich dyddiau chi. Mae’r Rheolau Diewyllys yn darparu trefn i’r rhai sy’n gymwys, sy’n cychwyn gyda’ch priod sy’n eich goroesi ac yna eich plant ac yn y blaen, gan orffen gyda Dugiaeth Cernyw. Gan ddibynnu ar werth eich ystâd fodd bynnag, a sut ydych yn dal dogfennau eich tir ac eiddo (neu’r ‘deeds’), gallai hyn olygu nad yw eich ystâd yn trosglwyddo yn ei gyfanrwydd i’ch priod, ond bod eich plant hefyd yn derbyn canran ohono. Gall hefyd olygu bod perthynas o bell yn etifeddu eich ystâd er nad oeddech wedi ystyried hyn. Mae’n bwysig felly nad yw hyn yn cael ei adael i siawns ac eich bod yn sicrhau bod eich asedau wedi’u trefnu mewn Ewyllys, gan gadw rheolaeth o bwy sy’n eu hetifeddu wedi eich dyddiau chi.
Mae Ewyllys yn ddogfen bwysig iawn i ni gyd. P’un ai ein bod ni’n oedolyn ifanc, yn rhiant, perchennog busnes, yn briod/mewn ail briodas, yn bartner sifil, yn dioddef o broblemau iechyd ac/neu yn eich blynyddoedd hŷn.
Gall ysgrifennu Ewyllys arbed trallod emosiynol a chostau i’ch anwyliaid wrth ddelio gyda’ch ystâd pe bai rhywun yn ei herio.
Teimlwn ei bod hi’n bwysig ystyried cynllunio olyniaeth fel proses yn hytrach na digwyddiad unwaith ac am byth, sydd yn aml yn galw am adolygiad cyfrannol a phragmatig o’ch asedau busnes a personol, eich nodau ac amcanion ar gyfer y dyfodol, a pha adnoddau bydd angen er mwyn i chi eu gwireddu.
O ran unig fasnachwyr, partneriaethau a busnesau, byddwn yn edrych ar y strwythur busnes gan ystyried y goblygiadau treth a dymuniadau’r rhai hynny o’ch cwmpas, gan eich sicrhau bod popeth sydd angen arno’ch chi yn eu lle er mwyn sicrhau cydlyniaeth â’ch dymuniadau, yn ystod ac ar ôl eich dyddiau chi. Mae ein hagwedd tuag at gynllunio olyniaeth yn ystyried y goblygiadau ymarferol a chyfreithiol i chi, eich anwyliaid a’ch busnes, ac rydym yn awyddus i weithio fel rhan o dîm o gynghorwyr dibynadwy ac arbenigwyr er mwyn cyflawni eich nodau.
I ddyfynnu C.S. Lewis:
“Ni allwch fynd nôl a newid y cychwyn,
ond gallwch ddechrau lle’r ydych chi a newid y diwedd.”
Ffoniwch i drefnu cyfarfod er mwyn trafod hyn ymhellach, gallwn drefnu cyfarfod yn y swyddfa, dros y ffôn, trwy fideo neu thrwy alw yn eich cartref.