Yn Agri Advisor, deallwn y gall fethiant perthynas fod yn anodd a llawn straen, a bod derbyn cyngor cyfreithiol yn ystod yr amser hynod sensitif hwn yn hanfodol er mwyn datrys materion sy’n ymwneud ag eiddo, asedau a/neu drefniadau gofal plant mewn modd sydd mor gyfeillgar ac anymosodol ag y bo modd.
Yma yn Agri Advisor, mae gennym dros 27 mlynedd o brofiad ar ein tîm, ac felly rydym yn gallu cynnig ystod eang o wasanaethau sy’n cynnwys cyngor ar anghydfodau ariannol a threfniadau sy’n ymwneud â’r plant a all ddeillio o fethiant perthynas ac sy’n gallu helpu ein cleientiaid i ddod i gytundeb gyda chyn lleied o straen â phosibl. Yn ogystal, mae gennym yr arbenigedd i ddarparu cyngor cyfreithiol i’n cleientiaid sy’n meddwl am ymrwymo i berthynas a fyddai’n cynnwys rhoi cyngor a pharatoi Cytundebau Cyd-fyw neu Gytundebau Cyn-briodasol.
Mae ein gwasanaeth cynhwysfawr yn cynnwys:-
- Ysgariad/gwahanu
- Anghydfodau Ariannol
- Anghydfodau Plant
- Cytundebau Cyd-fyw
- Cytundebau Cyn-briodasol
- Cytundebau Cyfrifoldeb Rhieni
Tra bod Agri Advisor yn gallu cynnig cyngor cyfreithiol ymarferol ar ôl i berthynas fethu, mae gan ein tîm hefyd empathi a dealltwriaeth yn ogystal â’r arbenigedd i gynorthwyo ein cleientiaid yn y maes anodd a sensitif hwn. Mae ymdrin ag asedau ffermio mewn methiant perthynas yn arbenigedd penodol o fewn y tîm.