Bethan Owen
Cymhwysodd Bethan fel Cyfreithwraig yn 2002, gan arbenigo mewn Ewyllysiau, Profiant, Ymddiriedolaethau a Chynllunio Ystadau o’r cychwyn cyntaf. Mae wedi bod yn aelod o Gymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaeth ac Ystâd (STEP) ers 2008.
Ar ôl treulio peth amser fel Cyfreithwraig newydd gymhwyso yn gweithio i gwmni mawr ym Mryste, dychwelodd Bethan i Dde Cymru i weithio lle chafodd ei phenodi’n Bennaeth yr adran Cleient Preifat a’i gwneud yn bartner cyflogedig. Yn 2010, symudodd Bethan i Ganolbarth Cymru a sefydlodd ei chwmni ei hun yn cynnig ei gwasanaethau fel ymgynghorydd a chynnal seminarau CPD i weithwyr proffesiynol eraill gyda phwyslais ar gynllunio treth ac olyniaeth ar gyfer busnesau ffermio.
Yn ddiweddarach symudodd Bethan i Ynysoedd y Sianel a chwaraeodd ran allweddol yn gweithio i Bwyllgor Twristiaeth ac Iechyd Cyhoeddus yr ynys am nifer o flynyddoedd cyn dychwelyd i weithio i Agri Advisor fel Cyfreithiwr Ymgynghorol. Mae Bethan wedi cael ymlyniad gydag Agri Advisor ers 2011.
Bethan Owen
Cyfreithwraig