Eva Salisbury – Jones
Eva yw ein Cynorthwy-ydd Swyddfa yn ein swyddfa yn Y Trallwng. Ymunodd â thîm Agri Advisor ym mis Ionawr 2024 ar ôl cwblhau ei chwrs Lefel 3 Rheoli Busnes a Digwyddiadau yng Ngholeg Reaseheath. Mae hi’n dod o gefndir amaethyddol / gwledig a thra yn y Coleg bu’n gweithio ar fferm laeth. Mae ganddi ddiddordeb brwd ym myd y gyfraith amaethyddol ac mae’n dyheu am ddod yn Gyfreithiwr cymwys yn y maes hwn.
Mae Eva yn aelod o CFfI Whittington a Chroesoswallt sydd wedi caniatáu iddi gael gwybodaeth bellach am y diwydiant a chwrdd â phobl newydd. Mae hi hefyd yn aelod o Ffermwyr Ifanc yr NFU sy’n golygu y gall gael cipolwg gwerthfawr ar feysydd cyfoes y diwydiant.
Yn ei hamser hamdden mae Eva yn chwaraewr pêl-rwyd frwd ac yn chwarae mewn dwy gynghrair wahanol. Mae hi hefyd yn mwynhau cerdded ei chŵn Beti a Bella ac archwilio traethau gwahanol o amgylch Cymru, ac yn y gaeaf fe fydd i’w gweld yn sgïo yn yr Alpau.
Eva Salisbury – Jones
Cynorthwy-ydd Gweinyddol