Ffion Thomas
Ymunodd Ffion â thîm Agri Advisor ym mis Tachwedd 2024 ac mae wedi’i lleoli yn ein swyddfa ym Mhumsaint, gan weithio o fewn y timau Eiddo Preswyl a Masnachol.
Astudiodd Ffion y Gyfraith a Chymdeithaseg fel rhan o’i gradd israddedig ac astudiodd ar gyfer y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl graddio, ymgymerodd Ffion â chontract hyfforddi mewn cwmni cyfreithiol masnachol yn Abertawe, lle enillodd ei chymhwyster fel Cyfreithwraig ym mis Medi 2024.
Yn ei hamser hamdden mae Ffion yn mwynhau cadw’n heini drwy fynd i’r gampfa, nofio a dringo mynyddoedd.
Ffion Thomas
Cyfreithwraig