Madison Wade
Ymunodd Madison â thîm Agri Advisor ym mis Tachwedd 2024 ac mae’n gweithio yn ein swyddfa yn Aberystwyth.
Mae gan Madison brofiad blaenorol mewn Gweinyddu, gan weithio fel Gweinyddwr i gwmni Meddygol tra’n astudio am ei gradd baglor mewn gwyddoniaeth biofeddygol. Ar hyn o bryd mae Madison yn dilyn MRes mewn Rheoli Parasitiaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, tra’n gweithio’n rhan-amser yn Agri Advisor.
Yn ei hamser hamdden mae Madison yn mwynhau treulio amser gyda ffrindiau a theulu, darllen cylchgronau gwyddonol ac yfed coffi.
Madison Wade
Cynorthwy-ydd Swyddfa