Myria Griffiths
Ymunodd Myria ag Agri Advisor ym mis Medi 2023, fel Uwch Gyfreithiwr Cyswllt yn y Tîm Eiddo a Chynllunio yn Swyddfeydd Pumsaint a Chastell Newydd Emlyn.
Mae ganddi lawer o brofiad mewn gwaith Eiddo Gwledig ac Amaethyddol ar ôl gweithio’n flaenorol i gwmni o Gaerdydd yn eu Tîm Amaethyddiaeth a Materion Gwledig a chyn hynny gyda JCP Solicitors yn eu Timau Eiddo Gwledig a Masnachol. Mae ganddi brofiad helaeth o gynghori ar werthu a phrynu ffermydd ac eiddo gwledig, tir amaethyddol a choetir, ariannu ac ail-ariannu eiddo masnachol ac amaethyddol, cofrestru tir digofrestredig, cofrestru hawliau tramwy rhagnodol, cytundebau opsiwn a rhagbrynu, hawddfreintiau a chytundebau fforddfraint, prydlesi a thrwyddedau, cytundebau benthyca a thenantiaethau busnes fferm.
Diddora Myria mewn amaethyddiaeth ar ôl astudio Cyfraith Amaethyddol ym Mhrifysgol Harper Adams. Mae’n mwynhau treulio amser gyda’i theulu a helpu ar y fferm deuluol sydd ychydig tu allan i Gaerfyrddin a thyfu blodau. Mae Myria hefyd yn siarad Cymraeg yn rhugl.
Myria Griffiths
Uwch Cyfreithwraig Cyswllt