Tudur Williams
Ymunodd Tudur ag Agri Advisor ym mis Mehefin 2024 fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn ein Swyddfa yng Nghastellnewydd Emlyn. Graddiodd Tudur o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd yn y Gyfraith a Rheoli Busnes.
Ar hyn o bryd mae wedi cofrestru ar y cwrs Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gweithio’n rhan-amser gyda ni yn Agri Advisor i ennill profiad o’n gwaith a’r wybodaeth a fydd yn ei gynorthwyo yn ystod ei gwrs a’i yrfa bellach.
Yn ei amser hamdden, mae Tudur yn aelod o CFfI Capel Iwan ac mae ganddo ddiddordeb mewn Rasio Modur, gan gystadlu mewn digwyddiadau nos leol.
Mae Tudur yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Tudur Williams
Cynorthwy-ydd Gweinyddol